Dyfodol S4C

Dyfodol S4C

Inquiry5

Cefndir

Cytunodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gynnal ymchwiliad i ddyfodol S4C. Ysgogwyd hyn gan adolygiad arfaethedig Llywodraeth y DU o S4C yn 2017, gyda’r bwriad o gyflwyno casgliadau’r ymchwiliad i adolygiad yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).

Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ym mis Chwefror 2017. Gofynnwyd i bobl ystyried:

 

-     Maint y cyllid a fyddai'n cael ei ystyried yn ddigonol ar gyfer y sianel. Er enghraifft, pwy ddylai ddarparu'r cyllid, a sut y dylid ei gyfrifo - a ddylid cael fformiwla ar ei gyfer? Sut y dylid cefnogi hyn drwy refeniw wedi'i gasglu gan S4C ei hun?

 

-     Y cylch gwaith statudol a ddylai fod gan S4C. A yw ei chylch gwaith presennol yn addas ar gyfer darlledwr cyfoes? Os nad yw, sut y dylid ei newid? Sut y dylai'r cylch gwaith adlewyrchu swyddogaeth ddigidol darlledwr modern?

 

-     Y strwythurau y dylai S4C eu rhoi ar waith ar gyfer ei llywodraethu a'i hatebolrwydd. Er enghraifft, a ddylid datganoli cyfrifoldeb dros S4C i Gymru?

 

-     Y gydberthynas a ddylai fodoli rhwng S4C â'r BBC.

 

-     Gwelededd S4C: sy'n cynnwys materion fel amlygrwydd S4C ar y ddewislen deledu electronig ac ar setiau teledu clyfar.

 

Holodd aelodau'r Pwyllgor randdeiliaid ynghylch y materion hyn rhwng mis Mawrth a mis Mai 2017. Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad o’i gasgliadau ym mis Awst 2017 a’i anfon at Euryn Ogwen Williams i lywio’r adolygiad yr oedd yn ei gynnal ar ran yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Cyhoeddwyd adolygiad DCMS Creu S4C ar gyfer y dyfodol (PDF, 558KB) ym mis Rhagfyr 2017.

Adroddiad  

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ar ei ganfyddiadau: Tu allan i'r bocs: Dyfodol S4C (PDF, 1MB).

Ymateb i'r adroddiad

Ymateb Llywodraeth Cymru i 'Tu Allan i'r Bocs: Dyfodol S4C' (PDF, 124 KB)

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/01/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau