Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal
Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal
Inquiry5
Cynhaliodd y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ymchwiliad
byr i’r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal. Cefnogwyd yr
ymchwiliad hwn gan randdeiliaid a ymatebodd i’r ymgynghoriad ar
flaenoriaethau’r Pwyllgor.
Grŵp o feddyginiaethau yw meddyginiaeth wrthseicotig a ddefnyddir fel arfer i
drin cyflyrau iechyd meddwl fel sgitsoffrenia. Maent yn aml yn cael eu rhagnodi
yn amhriodol i reoli symptomau ymddygiadol a seicoleg dementia. Mae eu defnydd
ymysg cleifion sydd â dementia yn gysylltiedig â risg gynyddol sylweddol o
niwed. Awgrymwyd bod tua dwy ran o dair o bresgripsiynau meddyginiaeth
wrthseicotig i bobl sydd â dementia yn amhriodol.
Nodir y nod o leihau nifer y bobl sydd â diagnosis o
ddementia sy'n defnyddio meddyginiaeth wrthseicotig yn amhriodol, yn arbennig
mewn cartrefi gofal, fel cam allweddol yn strategaeth ddementia
ddrafft Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o’i waith
ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, ysgrifennodd
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd at y Dirprwy Weinidog
Iechyd Meddwl a Llesiant ar 11 Gorffennaf 2022 i gael y wybodaeth ddiweddaraf
ar argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd. Ymatebodd y Gweinidogion ar 31 Ionawr 2023.
Cylch gorchwyl
Edrychodd y Pwyllgor ar y defnydd o feddyginiaeth
wrthseicotig mewn lleoliadau cartrefi gofal, a’r ffyrdd posibl i leihau’r
defnydd amhriodol ohoni, gan gynnwys ystyried:
- data sydd ar gael ar ragnodi meddyginiaethau
gwrthseicotig mewn cartrefi gofal, er mwyn deall pa mor gyffredin ydynt a
phatrymau defnydd;
- arferion rhagnodi, gan gynnwys gweithredu canllawiau
clinigol ac adolygiadau ar feddyginiaethau;
- cynnig opsiynau trin eraill (nad ydynt yn
ffarmacolegol);
- hyfforddiant i staff iechyd a gofal i gefnogi gofal
sy'n canolbwyntio ar unigolyn ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal sy'n byw
â dementia;
- nodi arfer gorau, ac effeithiolrwydd mentrau a
gyflwynwyd hyd yma i leihau'r arfer o ragnodi meddyginiaeth wrthseicotig
yn amhriodol;
- defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig i bobl â
dementia mewn mathau eraill o leoliadau gofal.
Casglu tystiolaeth
Roedd y Pwyllgor
yn gwahodd safbwyntiau ar y mater hwn. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd 21
Ebrill 2017.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/03/2017
Dogfennau
- Adroddiadau
- Adroddiad - Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal
- Ymateb Llywodraeth Cymru
- Ymateb Llywodraeth Cymru - gwybodaeth pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 275 KB
Papurau cefndir
Ymgynghoriadau
- Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal (Wedi ei gyflawni)