Sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru
Sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru
Pasiwyd y Ddeddf
Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) gan y Cynulliad
ar 8 Mawrth 2016, a chafodd Gydsyniad Brenhinol ar 25 Ebrill 2016. Mae Rhan 2
o'r Ddeddf yn sefydlu Awdurdod
Cyllid Cymru ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer aelodaeth Bwrdd yr Awdurdod
(y Bwrdd).
O dan Adran 2 o'r
Ddeddf, caiff Awdurdod Cyllid Cymru ei sefydlu fel corff corfforaethol â'i
hunaniaeth gyfreithiol ei hun. Bydd yn gorff y Goron â statws adran
anweinidogol, yn wahanol i statws corff a noddir gan Lywodraeth Cymru.
Bydd Awdurdod
Cyllid Cymru yn gwbl weithredol ym mis Ebrill 2018 ac i ddechrau bydd yn
gyfrifol am gasglu'r Dreth
Trafodiadau Tir a'r Dreth
Gwarediadau Tirlenwi, gyda lle i ehangu i fod yn gyfrifol am drethi
datganoledig eraill yn y dyfodol.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/03/2017