P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan David Sedley ar ôl casglu 222 llofnod. 

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau gweithredu yn erbyn masnachu mewn anifeiliaid egsotig sy’n cael eu dal a’u magu ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes yng Nghymru. Dylai hefyd wahardd trwyddedu pob busnes sydd ynghlwm â’r fasnach ddinistriol, greulon ac anfoesegol hon, gydag eithriadau clir ar gyfer canolfannau achub a chanolfannau achub trwyddedig.

Rydym hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ddilyn esiampl Llywodraeth yr Alban, sydd wedi ymrwymo i adolygu masnachu a mewnforio anifeiliaid egsotig ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes yn yr Alban ym mis Chwefror 2015, dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a'r Amgylchedd. Er mwyn i Gymru gael ei chymryd o ddifrif yn y gymuned gadwraeth fyd-eang, rydym o’r farn na allwn gael ein gweld yn caniatáu i’r fasnach hon barhau yn ein gwlad ein hunain. Mae hyn yn amlygu pryderon Cymdeithas Milfeddygon Prydain (BVA), y Federation of Veterinarians of Europe (FVE) a'r RSPCA.Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw newidiadau a gaiff eu gwneud i raglen Cymunedau yn Gyntaf yn gwarchod Canolfan Ieuenctid Forsythia rhag cael ei gau.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Mae anifeiliaid fel mwncïod, 'meerkats', ymlusgiaid a chrwbanod yn anifeiliaid gwyllt sy'n perthyn i’w cynefin naturiol, ac ni ddylent fod mewn cewyll a thanciau gwydr yng nghartref rhywun. Caiff dros 1000 o rywogaethau o famaliaid, adar, infertebratau, ymlusgiaid, amffibiaid a physgod eu magu a’u dal ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes egsotig. Ein dadl ni yw mai dim ond yn eu cynefinoedd naturiol y gellir bodloni anghenion cymdeithasol, corfforol ac ymddygiadol cymhleth yr anifeiliaid hyn. Hefyd, ceir tystiolaeth gref sy'n cysylltu’r fasnach mewn anifeiliaid egsotig â dinistrio cynefinoedd a difodiant rhywogaethau yn y gwyllt. Ochr yn ochr â dioddefaint anifeiliaid o'r fath wrth deithio - gan gynnwys llawer o gofnodion am farwolaethau - gall anifeiliaid ifanc dyfu i fod yn oedolion peryglus a all fynd dros ben llestri mewn amgylcheddau domestig nad ydynt yn addas i fodloni eu hanghenion lles am fwy o le a bwyd.

 

Mwnci mewn cawell.

Mwnci mewn cawell.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 13/10/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Yng ngoleuni'r diffyg cyswllt diweddar gan y deisebydd, a'r cadarnhad gan y Gweinidog na fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau newydd na Chod Ymarfer yn ystod gweddill tymor y Senedd hon, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/03/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Gorllewin Abertawe
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2017