Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach

Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach

Er bod adroddiad (PDF 2MB) Archwilydd Cyffredinol Cymru yn nodi bod trefniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyrannu arian a goruchwylio cyllid a pherfformiad y sector yn gadarn yn gyffredinol, daw i’r casgliad y byddai’n fuddiol mabwysiadu dull mwy integredig a hirdymor o weithredu. Mae’n tynnu sylw at rai o’r prif broblemau sy’n wynebu’r sector addysg bellach o ganlyniad i’r newidiadau yn y galw am ei wasanaethau, y cyfyngiadau ariannol sy’n parhau a’r polisi addysg ôl-16 ehangach. Fel ymateb, mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys: 

  • dylai Llywodraeth Cymru fynnu bod colegau’n paratoi cynlluniau ariannol tymor canolig, gan gynnwys rhagolygon ariannol mwy hirdymor;
  • dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu system sy’n cyd-fynd yn agosach â’r galw tebygol am addysg bellach ym mhob ardal; ac
  • mae angen i Lywodraeth Cymru werthuso effaith y cyfyngiadau cyllido ar ddysgwyr wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol am bolisi ac ariannu.

 

Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y canlyniadau yn yr Adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2017.

 

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Colegau Cymru

3 Gorffennaf 2017

Darllen trawsgrfiad o Sesiwn Dystiolaeth 1 (PDF 488KB)

Gwylio y Sesiwn Dystiolaeth ar Senedd TV

2. Llywodraeth Cymru

3 Gorffennaf 2017

Darllen trawsgrfiad o Sesiwn Dystiolaeth 2 (PDF 488KB)

Gwylio y Sesiwn Dystiolaeth ar Senedd TV

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/02/2017

Dogfennau