Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru
Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru
Mae Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno i
gynnal ymchwiliad i Fargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru yn
ddiweddarach eleni.
Crynodeb
Bwriad yr ymchwiliad yw rhoi trosolwg i'r Pwyllgor o
weithgarwch bargeinion dinesig a thwf ym mhedwar rhanbarth economaidd Cymru – a
sut mae'r rhain yn cyd-fynd â strategaethau economaidd Cymru a'r DU.
Er
mwyn cynorthwyo ei ymchwiliad, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar
unrhyw un neu'r holl bwyntiau a ganlyn:
- Y sefyllfa
bresennol o ran y Bargeinion Dinesig sydd eisoes wedi'u llofnodi ar gyfer
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Bae Abertawe a'r camau nesaf sydd ar y
gweill i'w datblygu;
- Yr effaith
y bwriedir i'r Bargeinion Dinesig ei chael a'r dulliau ar gyfer
llywodraethu, ariannu a monitro hyn;
- Y
manteision a allai godi o Fargen Dwf bosibl ar gyfer gogledd Cymru;
- I ba raddau
y gallai bargen dwf debyg fod o fudd i ganolbarth Cymru;
- I ba raddau
y gallai'r bargeinion twf a dinesig ddatrys neu waethygu anghydraddoldebau
presennol, mewn rhanbarthau a rhyngddynt;
- I ba raddau
y mae'r bargeinion twf a dinesig yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth
Cymru.
- Byddem
hefyd yn croesawu safbwyntiau cymharol am ddulliau gweithredu bargeinion
twf a rhanbarthau eraill ledled y DU.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/03/2017
Dogfennau
Ymgynghoriadau
- Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru (Wedi ei gyflawni)