Prentisiaethau yng Nghymru

Prentisiaethau yng Nghymru

 

Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru 2017.

 

Crynodeb

Nod yr ymchwiliad hwn yw rhoi cyfle i'r Pwyllgor fynd ar drywydd materion sy'n ymwneud â phrentisiaethau. Codwyd rhai o'r materion hyn yn ystod yr ymchwiliad diweddar i'r ardoll brentisiaethau ond nid oeddent yn uniongyrchol berthnasol i'r ardoll brentisiaethau.

 

Mae’r pwyllgor yn gwahodd sylwadau ar y canlynol:

  • Adolygu'r cynnydd ers adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes yn 2012: Prentisiaethau yng Nghymru
  • Mae hyn yn cynnwys edrych ar rôl cyrff allweddol: y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol; Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru (WESB); a'r Cynghorau Sgiliau Sector
  • Craffu ar hygyrchedd cyngor annibynnol ar yrfaoedd mewn perthynas â phrentisiaethau ac opsiynau galwedigaethol eraill
  • Yn enwedig ar gyfer pobl ifanc, naill ai mewn ysgolion, gan Gyrfa Cymru, ar-lein neu o ffynonellau eraill
  • A yw Gwasanaeth Paru Prentisiaethau Gyrfa Cymru yn addas at y diben
  • Sut y gellir sicrhau yr un parch i lwybrau galwedigaethol ac academaidd
  • Ymchwilio i'r prif rwystrau rhag cychwyn prentisiaethau
  • Pa mor hygyrch yw prentisiaethau i bobl ag anableddau (o bob oedran)
  • Sut y gellir cefnogi pobl o'r teuluoedd incwm isaf i gychwyn prentisiaethau
  • Pa arferion da sy'n bodoli a beth arall y gellir ei wneud i fynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw
  • Craffu ar y gwaith o ddatblygu prentisiaethau lefel uwch, gyda chefnogaeth sefydliadau addysg bellach ac uwch
  • Pa mor effeithiol yw'r dilyniant rhwng mathau eraill o ddysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau a rhwng lefelau 2, 3, 4 a'r prentisiaethau uchod
  • Sut y gellir gwella ymgysylltiad cyflogwyr â phrentisiaethau

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/04/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau