NDM6260 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6260 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6260
David Melding (Canol De
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod yr hyn a elwir yn 'bedwerydd chwyldro
diwydiannol' yn cynnig heriau a chyfleoedd i economi Cymru.
2. Yn nodi bod risg i tua 700,000 o swyddi yng Nghymru
dros y ddau ddegawd nesaf o ganlyniad i awtomatiaeth.
3. Yn credu bod gan Gymru arbenigedd eisoes sy'n rhoi
mantais gystadleuol mewn diwydiannau twf sy'n dod i'r amlwg.
4. Yn cydnabod bod angen inni, er mwyn manteisio ar y
diwydiannau newydd hyn, ganolbwyntio ar ddulliau cyflym, hyblyg sy'n addasu'n
rhwydd i amgylchiadau sydd wedi newid.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar Strategaeth
Arloesi Cymru gyda'r bwriad o sicrhau ei bod yn adlewyrchu maint a chwmpas yr
amhariad rydym yn ei wynebu, ac yn ymrwymo i adolygiad strategol o gyfleoedd
mewn sectorau newydd twf uchel, lle mae gan Gymru'r potensial i sicrhau ei bod
yn dominyddu'r farchnad yn gynnar fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth
economaidd newydd.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/03/2017
Angen Penderfyniad: 5 Ebr 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd