P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

O dan ystyriaeth

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gymdeithas Cadwraeth Forol ar ôl casglu 1,993 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

​Mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu er mwyn i Gymru gyfrannu’n gadarnhaol at y nod byd-eang yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac i adeiladu ar y canlyniadau rhagorol a gafwyd drwy godi tâl ar fagiau plastig, drwy weithredu dau gam arall a fyddai'n helpu Cymru i gyrraedd economi diwastraff, cylchol. Hynny yw:

 

  • Cyflwyno system dychwelyd ernes yng Nghymru ar gyfer pob cynhwysydd diod untro, fel poteli gwydr a phlastig a chaniau alwminiwm.
  • Deddfu er mwyn codi tâl ar yr holl gynwysyddion bwyd a diodydd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy nad oes modd eu compostio’n llawn, oni bai ei bod yn bosibl eu hailddefnyddio, eu hail-lenwi, eu cynnwys mewn cynllun dychwelyd neu eu casglu i'w hailgylchu mewn siopau.

 

Mae systemau dychwelyd ernes eisoes ar waith mewn mwy na 40 o wledydd ledled y byd a phrofwyd bod y rhain yn lleihau sbwriel, yn cynyddu cyfraddau ailgylchu drwy greu cyflenwad mwy dibynadwy o ddeunyddiau o ansawdd da, yn lleihau costau ar gyfer awdurdodau lleol ac yn creu swyddi.

Mae papurau lapio bwyd cyflym a chwpanau untro yn eitemau sbwriel cyffredin ar ein strydoedd a bydd sicrhau bod modd eu hail-lenwi/eu hailddefnyddio, a'i bod yn hawdd eu hailgylchu neu eu compostio, yn lleihau sbwriel.

Mae'r gwaith o gynhyrchu cynwysyddion diodydd newydd yn ogystal â chynwysyddion bwyd cyflym a chwpanau newydd yn defnyddio llawer iawn o ynni, sy'n cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr. Po fwyaf yr ydym yn ailgylchu, a pho leiaf o ysbwriel yr ydym yn ei ollwng, gorau oll ar gyfer ein hamgylchedd a'n heconomi.

 

Cynhwysydd bwyd cyflym a burger

Cynhwysydd bwyd cyflym

 

Statws

Mae'r ddeiseb hon yn cael ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/05/2017.

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/04/2017