P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant
P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Families Need Fathers Both Parents Matter Cymru ar ôl casglu 2,058 llofnod –
752 ar bapur a 1,306 ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cymru i berswadio Llywodraeth Cymru i ddiogelu plant a phobl ifanc
Cymru drwy gydnabod yn ffurfiol fod unrhyw un sy’n 'Dieithrio Plentyn oddi wrth
Riant' yn cam-drin plentyn yn emosiynol. Rydym yn galw ymhellach ar Lywodraeth
Cymru i gymryd camau penodol i leihau’r effaith a gaiff achosion o Ddieithrio
Plentyn oddi wrth Riant ar blant a'u teuluoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym yn cynnig bod Llywodraeth
Cymru yn cymryd y camau a ganlyn:
- Cydnabod bod unrhyw un sy’n ‘Dieithrio
Plentyn oddi wrth Riant’ yn cam-drin plentyn yn emosiynol ac, wrth
ddiffinio’r term, dylid cynnwys y diffiniad a gafwyd gan y Weinyddiaeth
Gyfiawnder (paragraff 1) yma
https://petition.parliament.uk/petitions/164983)
- Comisiynu ac ariannu hyfforddiant gorfodol i
weithwyr proffesiynol gan gynnwys staff y Gwasanaethau Cymdeithasol a
Cafcass Cymru (ond nid dim ond y rhain), i’w helpu i adnabod achosion o
Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant ac i sicrhau eu bod yn gwybod am y
trefniadau sydd ar waith i ddiogelu plant rhag niwed.
- Sefydlu ac ariannu ymgyrch genedlaethol i roi
gwybodaeth i blant a'u teuluoedd a’u dysgu am y cysyniad o Ddieithrio
Plentyn oddi wrth Riant a'r niwed y mae'n ei achosi.
- Rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd
camau i ddiogelu plant rhag cael eu cam-drin a’u niweidio drwy eu
Dieithrio oddi wrth Riant.
Dyma sut y diffiniwyd
'Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant’ gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder:
‘In cases where parents are
separated, parental alienation refers to a situation in which one parent
(usually the parent with whom the child lives) behaves in a way which creates
anxiety in the child, so that it appears the child is opposed to living or
spending time with the other parent.'
Daw'r diffiniad hwn o’r
paragraff cyntaf yn ymateb y Llywodraeth i ddeiseb Mr. Darren Towill sydd i’w
gweld yn: https://petition.parliament.uk/petitions/164983
Mae CAFCASS Lloegr eisoes wedi cydnabod bod unrhyw un sy’n dieithrio plentyn oddi
wrth riant yn euog o gam-drin y plentyn hwnnw. Mewn erthygl yn y Telegraph
ar-lein, dyddiedig 12 Chwefror, 2017, dywedodd Anthony Douglas, Prif Weithredwr
CAFCASS, fod Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant yn sicr gyfystyr ag
esgeuluso neu gam-drin plentyn, o ran ei effaith bosibl. http://www.telegraph.co.uk/news/2017/02/12/divorced-parents-pit-children-against-former-partners-guilty/
Plentyn
a Rhiant
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/07/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb
hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a nododd bod Cafcass Cymru wedi
cyhoeddi canllawiau ar ‘Anfodlonrwydd neu Wrthodiad Plant i Dreulio Amser gyda
Rhiant’ ac wedi darparu hyfforddiant i'w ymarferwyr ar sut i gydnabod y mater
hwn, yn ystod yr amser y mae'r ddeiseb wedi cael ei hystyried. Hefyd, mae’r
Pwyllgor wedi trafod llawer o ohebiaeth ac wedi cynnal sesiynau tystiolaeth
gyda’r deisebwyr, Cafcass Cymru a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
ar y pryd. Ar ôl cynnal pleidlais, barn mwyafrif y Pwyllgor oedd nad oedd
llawer rhagor y gellir ei gyflawni yn ystod gweddill tymor y Senedd hon ac y
dylid cau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/05/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/04/2017