P-05-752 Meithrin gallu plant i wrthsefyll seiberfwlio

P-05-752 Meithrin gallu plant i wrthsefyll seiberfwlio

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jamie Denyer ar ôl casglu 421 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu a chynnal gwaith ymchwil yn seiliedig ar dystiolaeth, a chynhyrchu strategaeth ac argymhellion i feithrin gallu ein plant, o’u plentyndod cynnar, i wrthsefyll effeithiau distrywiol seiberfwlio.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Dylai’r strategaeth gynnwys cyngor i rieni ac ysgolion ynghylch:

  • sut i greu safbwyntiau iach a chreu perthynas iach ag eraill ar y cyfryngau cymdeithasol
  • sut i baratoi plant i adnabod ac amddiffyn eu hunain rhag y math o ymddygiad sy’n cyfateb i seiberfwlio
  • sut i ddysgu plant i wahanu profiadau ar-lein oddi wrth brofiadau bywydau ‘go iawn’
  • sut i feithrin gallu plant i ymdopi’n emosiynol ag ymosodiadau personol ar-lein


Llaw yn teipio ar fysellfwrdd

Bysellfwrdd

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 12/07/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai'r Pwyllgor fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y deisebydd, a'r ymateb cynhwysfawr a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/05/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Gŵyr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/04/2017