Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

 

Inquiry5

 

Cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gynnal tri ymchwiliad i dlodi yng Nghymru.

 

Roedd y drydedd ffrwd waith yn archwilio sut yr oedd dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran datblygu economaidd wedi’i gynllunio i leihau tlodi a hybu ffyniant.

 

Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn cynnwys ystyried sut y gall strategaeth economaidd a chynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru:

 

  • leihau cyfran y bobl sydd ag incwm isel yng Nghymru;
  • creu twf economaidd sy'n fwy cynhwysol ac sydd o fudd i bobl a lleoedd fel ei gilydd ledled Cymru;
  • mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd rhwng gwahanol grwpiau o bobl

 

Tystiolaeth

 

Er mwyn llywio gwaith y Pwyllgor, cynhaliodd y Pwyllgor gyfres o sesiynau tystiolaeth lafar, ymgynghoriad ac wyth grŵp ffocws ledled Cymru.

 

Adroddiad

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel (PDF, 1.4MB) ym mis Mai 2018.

 

Wrth gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom dystiolaeth gymhellol iawn am effaith gwaith ar fywydau pobl. Roedd y dystiolaeth a glywsom gan y sector busnes bach a'r sector adeiladu yn arbennig o ysbrydoledig o ran dangos sut y gallant helpu i hyrwyddo gwelliannau mewn economïau lleol drwy ddarparu gwaith ystyrlon o ansawdd da. Roedd hefyd yn galonogol clywed bod newidiadau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl.”

 

Cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Gorffennaf 2018. Cafwyd dadl ar yr adroddiad ac ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Gorffennaf 2018.

 

Mae’r ffrydiau eraill o waith y Pwyllgor sy'n ymwneud â thlodi ar gael yma ac yma.

 

Cadw mewn cysylltiad

 

Os hoffech wybod rhagor am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ewch i’w dudalen hafan, dilynwch ei gyfrif Twitter neu cysylltwch â'r tîm sy'n cynorthwyo'r Pwyllgor yn SeneddCymunedau@cynulliad.cymru

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/04/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau