Cwestiynau Amserol - Y Bumed Senedd

Mae 20 munud ar gael i Aelodau ofyn cwestiynau amserol i'r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru neu'r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiynau llafar ddydd Mercher bob wythnos y mae'r Senedd yn eistedd mewn cyfarfod llawn.

Rhaid i Gwestiynau Amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

Caiff Aelodau gyflwyno Cwestiynau Amserol rhwng 9.00 ar ddydd Llun a 10.00 ar ddydd Mercher, a dim ond un Cwestiwn Amserol y caiff pob Aelod ei gyflwyno mewn unrhyw wythnos yn ystod y tymor.

Math o fusnes: Cwestiynau llafar

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/04/2017