Cwestiynau Amserol - Y Bumed Senedd
Cwestiynau Amserol - Y Bumed Senedd
Mae 20 munud ar gael i Aelodau ofyn cwestiynau amserol
i'r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru neu'r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiynau
llafar ddydd Mercher bob wythnos y mae'r Senedd yn eistedd mewn cyfarfod llawn.
Rhaid i Gwestiynau Amserol ymwneud â mater o arwyddocâd
cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo
gan Weinidog.
Caiff Aelodau gyflwyno Cwestiynau Amserol rhwng 9.00 ar
ddydd Llun a 10.00 ar ddydd Mercher, a dim ond un Cwestiwn Amserol y caiff pob
Aelod ei gyflwyno mewn unrhyw wythnos yn ystod y tymor.
Math o fusnes: Cwestiynau llafar
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/04/2017