P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol
P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Rhiannon Shipton & Lily McAllister-Sutton ar ôl casglu 1,333 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i basio deddf a fydd yn
cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli
crefyddol.
Y deisebwyr yn cyflwyno’r ddeiseb i’r Pwyllgor
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/01/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Clywodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg, a chan fod y Gweinidog yn glir na fydd
Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â gwaith pellach ar y mater hwn yn ystod y
Cynulliad presennol, fe gytunwyd nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar hyn
o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i'r deisebwyr am
ddefnyddio'r broses ddeisebau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 27/06/2017.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
- De Caerdydd a
Phenarth / Dwyrain Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/06/2017