P-05-758 Cerflun i anrhydeddu Billy Boston
P-05-758 Cerflun i anrhydeddu Billy Boston
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
CIAC's RFC ar ôl casglu 151 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i anrhydeddu un o arwyr
chwaraeon Prydain a Chymru, Billy Boston, gyda cherflun ym Mae Caerdydd.
Cafodd ei eni a'i fagu yn ardal y dociau yng Nghaerdydd ac mae'n hen bryd i'w
lwyddiannau ar y maes chwarae gael eu cydnabod gan ei dref enedigol a'i wlad.
Ar ddechrau ei yrfa rygbi, cafodd ei anwybyddu gan glwb ei dref enedigol, Clwb
Rygbi Caerdydd, ac o ganlyniad ni wireddwyd ei freuddwyd o chwarae ym Mharc yr
Arfau. Wigan wnaeth elwa ar golled Caerdydd a Chymru, ac aeth Billy ymlaen i
sgorio 478 cais mewn 487 gêm i'r clwb. Dyma rai o uchafbwyntiau eraill ei yrfa:
- Tair Cwpan Her a theitl Pencampwriaeth RFL
ym 1960
- 24 cais mewn 31 gêm ar gyfer Prydain ac
roedd yn aelod o'r tîm a enillodd Cwpan y Byd ym 1960
Mae Wigan wedi ei anrhydeddu yn
ddiweddar gyda cherflun, a cheir cerflun hefyd yn stadiwm Wembley yn tynnu sylw
at ei ddylanwad a'i statws o fewn rygbi'r gynghrair.
Mae Clwb Rygbi CIAC (clwb cyntaf Billy) yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd i
godi arian ac ati, ac mae gennym chwaraewr ar hyn o bryd sy'n gerflunydd ac a
fyddai'n fwy na hapus i fod yn rhan o'r prosiect.
Mae'n bryd cywiro camweddau'r gorffennol, a rhoi i Billy y parch a'r anrhydedd
y mae'n eu haeddu gan Gaerdydd a Chymru, a pha well ffordd o wneud hynny na
gyda cerflun yn y rhan o Gaerdydd lle y cafodd ei eni a'i fagu.
Cherflun
Statws
Yn ei gyfarfod ar 09/10/2018 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/06/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/06/2017