NDM6305 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6305 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6305 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod yr amryfal risgiau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd.
2.
Yn nodi pwysigrwydd enfawr cymryd camau i sicrhau bod plant yn cael eu cadw'n
ddiogel ar-lein, a'u haddysgu o ran y camau y dylent eu cymryd er mwyn helpu i
ddiogelu eu hunain wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ymateb cynhwysfawr i bryderon a godwyd
gan yr NSPCC (Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant), ynghylch
cynnydd mewn galwadau cysylltiedig y mae wedi'u cael o ran diogelwch ar y
rhyngrwyd.
4.
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod blaenoriaethu diogelwch
ar-lein yn rhan ganolog o bob strategaeth sy'n anelu at ddarparu cymunedau mwy
diogel i blant ledled Cymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/05/2017
Angen Penderfyniad: 17 Mai 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd