NDM6316 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6316 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6316 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn croesawu ymrwymiad Prif Weinidog y DU i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd
yn sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru.
2.
Yn cydnabod yr angen am fargen dwf i ogledd Cymru a phwysigrwydd hyn ar gyfer
ffyniant yn y rhanbarth yn y dyfodol.
3.
Yn nodi pwysigrwydd datblygu bargeinion rhanbarthol tebyg ar gyfer cymunedau
gwledi yng nghanolbarth Cymru er mwyn sicrhau bod ein gwlad yn gweithio i bawb.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/05/2017
Angen Penderfyniad: 24 Mai 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd