NDM6321 Dadl: Yr adolygiad o dirweddau dynodedig yng Nghymru
NDM6321 Dadl: Yr adolygiad o dirweddau dynodedig yng Nghymru
NDM6321
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod yr adroddiad Tirweddau'r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru wedi'i
gyhoeddi.
2.
Yn cytuno bod Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol
yn chwarae rhan allweddol:
a)
fel lleoedd gwerthfawr ar gyfer natur ac fel lleoedd sy'n creu budd i'r cyhoedd
a budd preifat drwy wahanol wasanaethau; a
b)
o safbwynt rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a chefnogi cymunedau gwledig
bywiog.
3.
Yn cytuno bod gwerth arbennig i bob tirwedd, sydd ynghlwm wrth y syniad o fro,
sydd wrth wraidd hunaniaeth cymuned a'r modd y mae llawer o bobl yng Nghymru'n
mynegi eu teimlad unigryw o berthyn i le penodol."
'Tirweddau'r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru'
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2017
Angen Penderfyniad: 6 Meh 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Jane Hutt AS