Ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru

Ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru

 

Fel rhan o’i gylch gwaith o ystyried y goblygiadau i Gymru wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, penderfynodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gynnal ymchwiliad i oblygiadau gadael yr UE i borthladdoedd Cymru.

 

Fel rhan o’r ymchwiliad, bu’r Pwyllgor yn trafod:

  • pa risgiau a chyfleoedd a oedd i borthladdoedd Cymru yng nghyd-destun gadael yr UE; a
  • pha gamau y dylid eu cymryd, a chan bwy, i liniaru unrhyw risgiau a sicrhau unrhyw fuddion.

 

Casglu tystiolaeth

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar fel rhan o’i ymchwiliad ar y dyddiadau a ganlyn:

 

12 Mehefin 2017 (577 KB)

3 Gorffennaf 2017 (311 KB)

 

Hefyd, aeth y Pwyllgor ar ymweliad rapporteur â Dulyn i siarad â chymheiriaid yn Llywodraeth Iwerddon, yn ogystal â busnesau a rhanddeiliaid yn y sector morwrol. Darllenwch y crynodeb o’r trafodaethau hyn (PDF 192KB).

 

Hefyd, cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig fel rhan o’r ymchwiliad, gellir gweld y rhain isod.

 

Adroddiad

 

Cafodd adroddiad y Pwyllgor ar oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru ei gyhoeddi ar 4 Awst 2017. Darllenwch yr adroddiad llawn.

 

Ar ddiwrnod cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Mae porthladdoedd Cymru yn cefnogi 18,400 o swyddi yn uniongyrchol, a llawer mwy y tu hwnt i hynny.  Ar hyn o bryd, mae Caergybi ac Abergwaun yn gweithredu yn ôl y cysyniad y gall nwyddau a phobl deithio’n ddi-dor o un ochr o Fôr Iwerddon i’r llall. Clywsom nad oes gan lawer o borthladdoedd Cymru y capasiti i gynnal archwiliadau tollau a ffiniau newydd, ac y gallai hyn gael effaith annerbyniol gan gynnwys mwy o oedi a thagfeydd.

 

“Rydym hefyd yn gwybod bod yna ofnau yn y diwydiant y gallai gosod ffin feddal yn y dyfodol yng Ngogledd Iwerddon, tra bod ffin galetach yn ei lle ar draws Môr Iwerddon, beri risg i borthladdoedd Cymru oherwydd y gallai traffig ddewis teithio i borthladdoedd yn Lloegr a’r Alban. Byddai hyn yn cael effaith economaidd ddifrifol ar Gymru, ac mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw ein porthladdoedd a’n diwydiannau dan anfantais annheg o ganlyniad i adael yr UE.”

 

Ymateb i’r adroddiad

 

Gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb i’r adroddiad ym mis Hydref 2017. Cafodd yr adroddiad ei drafod yn y Cyfarfod Llawn 11 Hydref 2017. Gallwch wylio’r drafodaeth ar Senedd.TV.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/05/2017

Dogfennau