P-05-766 Dylid Gwneud Opsiwn Fegan yn Orfodol Mewn Ffreuturiau Cyhoeddus
P-05-766 Dylid Gwneud Opsiwn Fegan yn Orfodol Mewn Ffreuturiau Cyhoeddus
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rachel Turnbull, ar ôl
casglu 118 o lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn orfodol cynnwys
opsiwn fegan ym mhob ffreutur neu wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru lle y mae
ganddi’r pŵer i wneud hynny. Mae Senedd
Portiwgal wedi cymeradwyo opsiwn fegan gorfodol ym mhob ffreutur cyhoeddus
(e.e. ysgolion, prifysgolion, carcharau, ysbytai) – sy’n gam enfawr ar gyfer
arlwyo fegan i bawb. Mae dros 5 y cant o’r boblogaeth yn fegan, ac mae’r ganran
yn cynyddu. Mae deiet fegan yn fwy iachus, mae’n arbed adnoddau ac mae’n
amddiffyn y blaned ac, yn fwy na dim, nid oes creulondeb yn ei gylch. Mae’r
Cenhedloedd Unedig wedi galw arnom i fwyta rhagor o fwydydd sy’n deillio o
blanhigion. Mae bwydydd sy’n deillio o anifeiliaid yn gysylltiedig â chanser a
chlefyd y galon.
Sbeisys ac offer coginio
Statws
Yn ei gyfarfod ar 23/01/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb am ei bod yn anodd gweld sut y gall y
Pwyllgor ei dwyn ymlaen heb gyswllt gan y deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y
Pwyllgor Deisebau ar 11/07/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Gorllewin
Casnewydd
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/06/2017