Amgylchedd Hanesyddol

Amgylchedd Hanesyddol

Inquiry5

Yr amgylchedd hanesyddol

Cytunodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gynnal ymchwiliad i amgylchedd hanesyddol Cymru. Roedd yr ymchwiliad hwn yn dilyn ymgynghoriad haf y Pwyllgor yn 2016, lle cafodd 'gwarchod treftadaeth ddiwylliannol leol' ei amlygu gan y cyhoedd fel bod yn un o'r meysydd allweddol y dylai'r Pwyllgor roi blaenoriaeth iddo.

 

Rhwng mis Gorffennaf a mis Awst 2017 gofynnodd y Pwyllgor i bobl am ymatebion ysgrifenedig yn mynd i’r afael â’r canlynol:

 

·      Rhoi Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol ar waith;

·      diogelu adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig;

·      diogelu adeiladau a henebion sydd mewn perygl;

·      hwyluso cydweithio o fewn y sector;

·      gwneud y gorau o werth twristiaeth treftadaeth a gwaith Cadw i gyrraedd ei dargedau ar gyfer cynhyrchu incwm;

·      rhoi adroddiad y Farwnes Andrews ar ddiwylliant a thlodi ar waith;

·      cydweithio ag asedau treftadaeth yn y sector preifat; a

·      statws Cadw yn y dyfodol.

 

Bu’r Pwyllgor yn cynnal sgwrs â’r rheini sydd â diddordeb yn eu cyfarfodydd rhwng mis Hydref 2017 a mis Rhagfyr 2017.

 

Adroddiad  

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad o’u canfyddiadau ym mis Ebrill 2018.

 

Ymateb i'r adroddiad

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i'r adroddiad.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/07/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau