P-05-772 Na i Gylch Haearn arfaethedig Castell y Fflint

P-05-772 Na i Gylch Haearn arfaethedig Castell y Fflint

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gerwyn David Evans, ar ôl casglu 11,091 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​​​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wrthod y cynlluniau arfaethedig o adeiladu Cylch Haearn y tu allan i Gastell y Fflint gan ein bod yn ymwybodol iawn o arwyddocâd hanesyddol Edward I a’i Gylch Haearn, a ddefnyddiwyd i ddarostwng a llethu ein pobl.

​​​​Rydym o’r farn bod hyn yn arbennig o amharchus i bobl Cymru a’n hynafiaid sydd wedi brwydro yn erbyn gorthrymder, darostyngiad ac anghyfiawnder am gannoedd o flynyddoedd.

​​​​Gofynnwn ichi ailfeddwl y penderfyniad i adeiladu’r heneb hon a defnyddio’r arian ar gyfer rhywbeth arall.

​​​​

​​​​Statws

​​​​Yn ei gyfarfod ar 09/01/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau. Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r cadarnhad a gafwyd na fydd gwaith celf y cylch haearn yn mynd yn ei flaen.  Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau'n dymuno llongyfarch y deisebwyr am lwyddiant yr ymgyrch.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 19/09/2017.

​​​​

​​​​Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Rhondda
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/09/2017