P-05-777 Cymhwyso’r Ddeddfwriaeth Systemau Llethu Tân Awtomatig o fewn y Rheoliadau Adeiladu cyfredol ar gyfer Cymru.
P-05-777 Cymhwyso’r Ddeddfwriaeth Systemau Llethu Tân Awtomatig o fewn y Rheoliadau Adeiladu cyfredol ar gyfer Cymru.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nick Harding, ar ôl casglu
62 o lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
adolygu a diwygio gweithrediad presennol y Rheoliadau Systemau Chwistrellu Tân
o fewn y Rheoliadau Adeiladu cyfredol a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2016 (Cymru).
Dylai’r adolygiad i ddiwygio ystyried yn benodol sut y
mae’r rheoliad wedi cael ei integreiddio i’r Rheoliadau Adeiladu cyfredol mewn
perthynas â phrosiectau sy’n dod o fewn y categori "Newid Defnydd
Hanfodol” (Rheoliad 5) a’r gofyniad i ôl-ffitio systemau llethu tân awtomatig.
Dylai’r adolygiad yn bennaf ystyried yr hyn a gyflawnir mewn gwirionedd pan
fydd dau eiddo yn cael eu cyfuno i un eiddo, o gofio: -
1) Pan fydd dau annedd yn dod yn un, dylai’r broses
adeiladu ei hun gael ei hystyried yn ddim gwahanol i’r hyn a fyddai’n cael ei
ystyried fel Estyniad i annedd. O dan y Rheoliadau Adeiladu presennol nid oes
angen i system llethu tân awtomatig gael ei gosod mewn Estyniadau waeth beth
fo’u maint.
2) Y gofyniad yw i osod system llethu tân awtomatig yn yr
adeilad yn ei gyfanrwydd ac nid dim ond yn y rhan sydd wedi’i ddatblygu.
3) Nid yw’r Rheoliad yn ystyried unrhyw gamau lleihau tân
sylweddol sydd eisoes yn digwydd o ganlyniad i’r prosiect adeiladu, fel lleihau
nifer y ceginau o fewn eiddo (mae 70% - 80% o’r holl danau domestig yn dechrau
mewn ceginau yn ôl Firesafe.org.uk).
4) Mae’r costau cyfredol ar gyfer systemau llethu tân
awtomatig wedi’u "hôl-osod" yn golygu nad yw’r gofyniad yn gost
effeithiol, sef ffaith a ategir gan bob astudiaeth a gomisiynwyd ac astudiaeth
annibynnol a gynhaliwyd hyd yma. (Mae costau a dyfynbrisiau a gasglwyd yn
amrywio o £5,000 i dros £10,000, yn dibynnu ar argaeledd llif o ddŵr,
nifer y penaethiaid sy’n gweithredu, a gofynion o ran tanc a seilwaith).
5) Mae’r Ddeddfwriaeth wedi cael ei rhoi ar waith heb
seilwaith digonol. O fewn Cymru gyfan dim ond 7 o gwmnïau BAFSA cofrestredig
sy’n bodoli. Mae hyn yn debygol iawn o arwain at brisio heb fod yn gystadleuol.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Dylai’r adolygiad hefyd edrych ar y goblygiadau ehangach
o ran sut y mae’r ddeddfwriaeth hon wedi cael ei rhoi ar waith, nawr ei bod
wedi bod ar waith ers peth amser. Dylai ystyriaethau gynnwys:
1) Cynnal y systemau - Nid yw’r ddeddfwriaeth yn cynnwys
dim ynghylch unrhyw ofynion cynnal a chadw parhaus ar ôl i system gael ei
gosod. Dull Cynulliad Cymru yn hyn o beth yw darparu "Taflen" i’r
cyhoedd sydd i fod i ddarparu gwybodaeth i berchennog cartref ynglŷn â
gofynion cynnal a chadw’r system; fodd bynnag, mae hyn yn llai na’r hyn a
fyddai’n cael ei gyflawni pe bai’n rhan o’r ddeddfwriaeth i sicrhau y caiff y
system ei chynnal a’i chadw yn barhaus. Fodd bynnag, yr effaith yn sgil hyn yw
rhoi rhagor o faich ar berchnogion tai o ran costau bod yn berchen ar gartref
a’i redeg, gyda chostau cynnal a chadw parhaus a amcangyfrifir dros £2000 y
flwyddyn.
2) Risg Legionella (oherwydd diffyg cynnal a chadw) -
Credir yn eang nad yw systemau chwistrellu yn gyffredinol yn ffynhonnell
Legionella (FPA RC63), fodd bynnag, gan mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i
ddeddfu ar Systemau Chwistrellu Domestig fel gofyniad ar gyfer pob adeilad
newydd a chartref a gaiff ei drawsnewid, credwn fod angen mwy o waith ymchwil,
yn enwedig gan fod y rheoliadau yn hepgor cynnwys cynnal a chadw’r system.
Rydym ni o’r farn, wrth i systemau heneiddio, ac na chânt eu cynnal oherwydd
costau, y bydd y risg o Legionella yn rhoi’r cyhoedd mewn mwy o berygl o haint
yn gyffredinol.
3) Costau - Oherwydd lled elw tynn ar gyfer Adeiladwyr
Tai a Datblygwyr, mae rhai bellach wedi rhoi’r gorau i adeiladu tai mewn rhai
ardaloedd yng Nghymru (cwmni Persimmon a chwmni Redrow) neu byddant yn rhoi’r
gorau iddi’n fuan, o ganlyniad uniongyrchol i’r Ddeddfwriaeth hon.
4) Dadansoddiad Budd Cost - Yn ystod yr ymchwiliad
cychwynnol amcangyfrifwyd y byddai’r system yn costio £1500 - £2500 i bob
cartref. Mewn gwirionedd mae’r gost rhwng £5,000 a £10,000 am bob
gosodiad. Yn aml mae angen offer ychwanegol oherwydd na all Dŵr
Cymru warantu isafswm llif a phwysau’r dŵr.
Tai
Statws
Yn ei gyfarfod ar 19/06/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf
gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/10/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/09/2017