P-05-780 Ailagor Gorsaf Carno
P-05-780 Ailagor Gorsaf Carno
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Carno Station Action Group,
ar ôl casglu 877 o lofnodion ar bapur.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn croesawu’r
gwaith o ddatblygu Achos Busnes ar gyfer ailagor gorsaf Carno, yn dilyn deiseb
Grŵp Gweithredu Gorsaf Carno i’r Cynulliad 10 mlynedd yn ôl. Rydym yn nodi
bod yr achos busnes diwygiedig yn dangos cymhareb o 1.65 o ran manteision i
gostau ac y byddai stopio’r rhan fwyaf o drenau yng Ngharno yn cyd-fynd â’r
amserlen lawnach bresennol. Mae Carno yn gymuned cymharol anghysbell, sydd
wedi’i lleoli ar y darn hiraf o reilffordd heb orsaf weithredol arni yng
Nghymru gyfan. Byddai cael gorsaf yma yn rhoi mynediad llawer gwell a
chynaliadwy at swyddi a gwasanaethau. Felly, rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailagor gorsaf Carno yn unol ag
amserlen o bum mlynedd.
Y
deisebwyr yn cyflwyno'r ddeiseb i’r Senedd
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17/07/2018
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf
gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/10/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Maldwyn
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/10/2017