P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar

P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar

Wedi'i gwblhau

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan The Port Talbot Super Prison Protest Group, ar ôl casglu 1,263 o lofnodion ar-lein a 7,528 ar bapur – cyfanswm o 8,791 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i beidio â rhyddhau na gwerthu tir i lywodraeth y DU i ddatblygu archgarchar ym Maglan.

Mae Llywodraeth y DU, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn cynnig adeiladu 'archgarchar' â lle i 1600 o ddynion ar rostir Baglan.

Mae'r safle yn agos at gartrefi a chyfleusterau lleol a busnesau lleol, a bydd yn rhoi straen sylweddol ar ffyrdd a gwasanaethau iechyd yn yr ardal.  Mae'r safle mewn parth menter ac wedi'i ddynodi ar gyfer defnydd economaidd yn ogystal â bod mewn ardal lle y ceir perygl llifogydd. 

Mae gan Gymru eisoes lawer o leoedd gwag yn y carchardai sydd ganddi ar hyn o bryd.

Byddai'r carchar hwn yn cyflwyno'r holl broblemau sy'n gysylltiedig â charchardai mawr ac ni chafwyd unrhyw warant gan y naill lywodraeth na'r llall ynglŷn â'r camau amddiffyn a fyddai'n cael eu rhoi ar waith i gynorthwyo Port Talbot i ymdopi â nifer mor fawr o garcharorion.

Nid oes unrhyw sicrwydd tymor hir y byddai'r carchar newydd yn parhau i gael ei neilltuo ar gyfer carcharorion categori C. Gellid ei newid yn y dyfodol i gadw troseddwyr mwy peryglus.

Gall Port Talbot wneud yn well na hyn ac mae ein tref yn haeddu llawer mwy. A wnewch chi lofnodi'r ddeiseb a dweud wrth Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, DIM archgarchar ym Mhort Talbot?

 

Deisebwyr yn cyflwyno’r ddeiseb i’r Cynulliad

Deisebwyr yn cyflwyno’r ddeiseb i’r Cynulliad

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 12/07/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Yn sgil datblygiadau diweddar sy'n dangos nad yw'r cynnig i adeiladu carchar newydd ym Maglan yn mynd rhagddo, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/11/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Aberafan
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/10/2017