P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth
P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Stevie Lewis, ar ôl casglu
213 o lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau i adnabod
yn briodol a chefnogi'n effeithiol yr unigolion hynny yr effeithir arnynt ac a
niweidir gan ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn a'r adwaith wrth ddiddyfnu
oddi wrthynt.
Sefydlwyd y ddeiseb hon i godi ymwybyddiaeth o sefyllfa unigolion yng Nghymru
yr effeithir arnynt gan ddibyniaeth ar gyffuriau gwrth-iselder a
bensodiasepinau ar bresgripsiwn a'r adwaith wrth geisio diddyfnu oddi wrthynt.
Yn benodol gofynnwn i Lywodraeth Cymru gefnogi galwad Cymdeithas Feddygol
Prydain ledled y DU am gamau i ddarparu cymorth amserol a phriodol ar gyfer
unigolion yr effeithir arnynt.
Mae'r term "dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn" yn cyfeirio'n
benodol at y sefyllfa lle mae cleifion, ar ôl cymryd eu meddyginiaeth
gwrth-iselder neu bensodiasepin yn union fel a ragnodwyd gan eu meddyg, yn
gweld na allant roi'r gorau oherwydd yr effeithiau diddyfnu difrifol. Mae'n
bwysig nodi yma bod caethiwed a dibyniaeth yn gysylltiedig â'i gilydd, ond yn
faterion gwahanol. Mae defnyddio'r term 'bod yn gaeth' yn awgrymu bod yr
unigolyn yn ymddwyn mewn ffordd benodol er mwyn ceisio pleser. Mae adroddiadau
am ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn yn y cyfryngau yn parhau i gyfeirio at
"camddefnyddio" a "bod yn gaeth" fel pe bai'r claf yn
gyfrifol mewn rhyw ffordd am ei niwed ei hun. Mae hyn ymhell o'r gwir. Ni cheir
unrhyw bleser o gwbl o sylweddoli eich bod yn dioddef amrywiaeth eang o
symptomau corfforol ac emosiynol wrth geisio rhoi'r gorau i'ch meddyginiaeth
gwrth-iselder neu cymryd llai ohoni. Mewn rhai achosion, gall y symptomau
gyfyngu ar fywyd pobl ac, yn drasig, gallant fod yn angheuol hyd yn oed. Mae ar
gleifion angen cydnabyddiaeth ffurfiol, cymorth ac arweiniad i'w helpu drwy eu
taith o roi'r gorau i'r feddyginiaeth ac nid yw hynny'n bodoli ar hyn o bryd.
Gwybodaeth ychwanegol:
Yn ddiweddar, mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi tynnu sylw at broblem
dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn. Ym mis Mai 2017 ysgrifennodd:
"Prescribing of psychoactive drugs is a major clinical activity and a key
therapeutic tool for influencing the health of patients. But often their use
can lead to a patient becoming dependent or suffering withdrawal symptoms. In
the absence of robust data, we do not know the true scale and extent of the
problem across the UK. However, the evidence and insight presented to us by
many charity and support groups shows that it is substantial. It shows us that
the 'lived experience' of patients using these medications is too often
associated with devastating health and social harms. This represents a
significant public health issue, one that is central to doctors' clinical role,
and one that the medical profession has a clear responsibility to help
address." Oherwydd nad yw sgil effeithiau, effeithiau goddefiad ac
effeithiau diddyfnu'r meddyginiaethau hyn yn cael eu hadnabod yn feddygol am yr
hyn ydynt, pan fydd cleifion yn datblygu'r effeithiau/symptomau cysylltiedig
hyn maent yn aml yn cael presgripsiwn ar gyfer meddyginiaethau eraill ac yna
mae'r gymysgedd o nifer o feddyginiaethau yn cymhlethu'r problemau ymhellach.
Mae cleifion yr effeithir
arnynt yn eu cael eu hunain â diagnosis amwys, e.e.'symptomau heb esboniad
meddygol' neu 'anhwylderau'r system anorganaidd / corfforol'. Yn y bôn,
diagnosis seiciatrig yw pob un o'r rhain, yn priodoli amrywiol symptomau
corfforol sy'n gwanychu a llesgáu'r claf i'w bryder a'i gredoau ac ati ei hun. Effaith hyn yw diystyru, diraddio a digalonni
rhagor ar y cleifion hyn. Os na ellir cydnabod bod modd i gleifion ddioddef
niwed a chamweithrediad anorganaidd parhaus ar y system nerfol o ganlyniad i
gymryd meddyginiaethau 'yn unol â'r presgripsiwn' (weithiau dros lawer o flynyddoedd),
bydd dysg a gwelliant meddygol systemig yn cael eu llesteirio a bydd cleifion
yn parhau i gael eu niweidio ymhellach. Yn y cyfamser ni sylweddolir o hyd
faint y risgiau wrth roi'r presgripsiwn cychwynnol, ac mae'r canllawiau
camarweiniol a'r cyngor 'arfer gorau' ar gyfer rhoi meddyginiaethau o'r fath ar
bresgripsiwn yn parhau yr un fath.
Statws
Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau yn dilyn
dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 22/05/2019.
Cyhoeddwyd adroddiad
gan y Pwyllgor ac yn dilyn hynny fe gynhaliwyd dadl arno yn y Cyfarfod Llawn.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 05/12/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Mynwy
- Dwyrain De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/11/2017
Dogfennau