NDM6516 Dadl: Y Papur Gwyn ar Gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg
NDM6516 Dadl: Y Papur Gwyn ar Gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg
NDM6516 Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg a
gyhoeddwyd fel testun ymgynghoriad ar 9 Awst 2017.
'Y
Papur Gwyn ar Gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg'
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi amrywiaeth y safbwyntiau a fynegwyd yn yr
adroddiad cryno o'r ymatebion i'r alwad am dystiolaeth, 'Paratoi ar gyfer Bil y
Gymraeg', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017.
'Paratoi
ar gyfer Bil y Gymraeg - Galwad am dystiolaeth: crynodeb o'r ymatebion'
Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi cylch gwaith cul Papur Gwyn Llywodraeth Cymru.
Gwelliant 3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd unrhyw
wanio o ran hawliau cyfreithiol presennol siaradwyr Cymraeg.
Gwelliant 4. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwaith
rheoleiddio a gwaith hyrwyddo mewn perthynas â'r Gymraeg yn cael eu cwblhau gan
ddau gorff gwahanol.
Gwelliant 5. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu awydd Llywodraeth Cymru i leihau'r lefel o
fiwrocratiaeth sydd yn bodoli yn system safonau'r iaith Gymraeg.
Gwelliant 6. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud ymlaen gyda'r safonau
iaith ar gyfer iechyd a chymdeithasau tai ar fyrder, ac i gyhoeddi amserlen ar
gyfer cyhoeddi safonau i'r sectorau ynni, cwmnïau dŵr, telathrebu, cwmnïau
trenau a bysus.
Gwelliant 7. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y safonau iaith i
weddill y sector breifat.
Gwelliant 8. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu yn glir ei
rhesymeg dros gynnig cael gwared ar rôl Comisiynydd y Gymraeg.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/06/2021
Angen Penderfyniad: 3 Hyd 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Jane Hutt AS