Tai carbon isel: yr her

Inquiry5

 

Cylch gorchwyl

Cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig asesu'r hyn yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i gyflawni o safbwynt tai carbon isel ac ystyried yr hyn oedd angen ei wneud i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn llwyddo yn ei hymrwymiadau i gyflawni targedau o ran arbed ynni a lleihau allyriadau. Bu’r Pwyllgor yn edrych ar:

  • Y cyfraniad y gall tai ei wneud wrth i Gymru bontio i economi rhad ar garbon, gan gynnwys yr effeithiau cadarnhaol posibl ar allyriadau nwyon tŷ gwydr;
  • Datblygiad y dechnoleg sydd ei hangen ar gyfer tai sy'n defnyddio ynni'n effeithlon iawn, ac i ba raddau y mae'r dechnoleg honno ar gael;
  • Y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod y stoc dai bresennol yn defnyddio ynni mor effeithlon ag y bo modd;
  • A yw'n bosibl ac yn ymarferol darparu tai fforddiadwy ar raddfa fawr yng Nghymru a'r rheiny'n effeithlon iawn o ran carbon ac yn cynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio ac, os felly, sut y gellir cyflawni hyn;
  • Y ffactorau sy'n rhwystr rhag cyflwyno newid trawsnewidiol ym maes adeiladu tai yng Nghymru;
  • Rôl Ofgem a'r grid cenedlaethol o ran galluogi'r grid i esblygu i ddarparu ar gyfer mathau newydd o dai, a'r heriau a gyflwynir wrth i ynni gael ei gyflenwi o ffynonellau wedi'u datganoli;
  • A oes gan Gymru'r sgiliau angenrheidiol i hwyluso a galluogi newid yn y sector tai;
  • Y newidiadau y mae angen eu gwneud i Reoliadau Adeiladu yng Nghymru er mwyn symud yn gyflymach tuag at safonau ynni lle y cynhyrchir bron ddim carbon, a thu hwnt i hynny;
  • Sut y gellir cynllunio a siapio cymunedau i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon a chynhyrchu llai o garbon (gan gynnwys enghreifftiau o arfer da yng Nghymru a thu hwnt).

 

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig gan randdeiliaid ac mae'r rhain wedi'u cyhoeddi.

 

Adroddiad

 

Cyhoeddod Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad Tai Carbon Isel: yr Her (PDF 1MB) ar 2 Awst 2018 ac ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 17 Hydref 2018.

 

Trafodwyd yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Hydref 2018.

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/09/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau