Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?

Cefndir

Cytunodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ystyried sut y mae’r sector cyhoeddus a busnesau yng Nghymru yn paratoi at Brexit. Mewn nifer o ymchwiliadau blaenorol y Pwyllgor, holwyd ynghylch parodrwydd y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru ac a fyddent yn gallu gwrthsefyll yr effeithiau posibl.

Cylch gorchwyl

Diben yr ymchwiliad oedd archwilio:

  • ymateb gweinyddol ac ariannol mewnol Llywodraeth Cymru i Brexit; a
  • Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus, addysg uwch, y trydydd sector a'r sectorau economaidd i baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Casglu tystiolaeth

 

Fel rhan o’r ymchwiliad, lansiodd y Pwyllgor ymgynghoriad a chynnal nifer o sesiynau tystiolaeth i lywio gwaith y Pwyllgor.

 

Ar 6 Tachwedd 2017, bu aelodau’r Pwyllgor yn ymweld â rhanddeiliaid yn Abertawe, Llanelli a Chaerllion. Roedd hyn er mwyn edrych sut mae’r sector cyhoeddus a busnesau yng Nghymru yn paratoi ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Darllenwch yr adroddiadau am yr ymweliadau ag Abertawe a Llanelli (PDF, 259KB) a’r ymweliad â Chaerllion (PDF, 64KB).

 

Adroddiad

 

Cyhieddodd y Pwyllgor ei adroddiad ‘Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?’ ym mis Chwefror 2018.

 

Ar ddiwrnod cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Mae sectorau a sefydliadau yn chwilio am arweiniad gan Lywodraeth Cymru ac mae’n hanfodol y gallant ddechrau gwneud eu cynlluniau eu hunain am fywyd y tu allan i’r UE.

 

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi arweiniad cadarnach i’r sectorau hyn er mwyn sicrhau ein bod i gyd yn cychwyn ar yr un llwybr pan fyddwn yn gadael ar ddiwedd y trafodaethau.”

 

Ymateb i’r adroddiad

 

Gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb i’r adroddiad ar 12 Ebrill 2018. Trafodwyd yr adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Ebrill 2018. Gallwch wylio’r drafodaeth ar Senedd.TV.

 

Gwaith dilynol

Yn ei gyfarfod ar 16 Gorffennaf 2018, cytunodd y Pwyllgor i wneud rhagor o waith dilynol ar agweddau ar barodrwydd Cymru at Brexit yn nhymor yr hydref.

Ers hynny, mae’r Pwyllgor wedi gwneud gwaith ar y cyd gyda Swyddfa Archwilio Cymru ar barodrwydd at Brexit ac wedi parhau i graffu ar barodrwydd sectorau allweddol.

 

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/09/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau