Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018

Bil Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan Rebecca Evans AS, Y Gweinidog dros Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn dilyn newid ym mhortffolios y Gweinidogion ym mis Tachwedd 2017, fe wnaeth y Prif Weinidog awdurdodi Vaughan Gething AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fel yr Aelod newydd a oedd yn gyfrifol am y Bil, o 9 Tachwedd 2017. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Bil i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

 

Ynglŷn â'r Bil

Mae'r Bil yn darparu ar gyfer isafbris ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru gan bobl benodol ac mae'n ei gwneud yn drosedd i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi am bris is na'r pris hwnnw.

 

Mae'r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:

  • y fformiwla ar gyfer cyfrifo'r isafswm pris cymwys am alcohol trwy luosi cryfder canran yr alcohol, ei gyfaint a'r isafbris uned  (MUP);
  • pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth i bennu'r MUP;
  • sefydlu trefn orfodi dan arweiniad awdurdodau lleol gyda phwerau i ddod ag erlyniadau;
  • pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig awdurdod lleol, trosedd o rwystro swyddog awdurdodedig a'r pŵer i gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig (FPNs).

 

Mae'r Bil yn cynnig y byddai'r MUP yn cael ei bennu yn y rheoliadau. Fodd bynnag, at ddibenion asesu'r effeithiau a'r costau a'r manteision cysylltiedig, mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn defnyddio MUP o 50c fel enghraifft.

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil i'w gweld yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef.

 

Cyfnod Presennol

 

BillStageAct

 

Daeth Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru (gwefan allanol) ar 9 Awst 2018.

 

Cofnod hynt biliau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Bil trwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cyfnod

Dogfennau

Cyflwynwyd y Bil: 23 Hydref 2017

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF 133KB)

 

Memorandwm esboniadol (PDF 2MB)

 

Datganiad y Llywydd: 23 Hydref 2017 (PDF 126KB)

 

Y Pwyllgor Busnes - Yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) (PDF 53KB)

 

Y Pwyllgor Busnes – Yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) (PDF 55KB)

 

Llywodraeth Cymru: Datganiad o Fwriad y Polisi ar gyfer Is-ddeddfwriaeth (PDF 582KB)

 

Bil drafft Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (dolen allanol)

 

Cyfnod 1: Y Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Roedd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth, a wnaeth cau ar 15 Rhagfyr 2017.

 

Dyddiadau'r Pwyllgor

Bu’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn trafod y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

25 Hydref 2017

Ystyried y Dull o Graffu ar Gyfnod 1 (Preifat)

(Preifat)

(Preifat)

9 Tachwedd 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Wedi ei ganslo

 

23 Tachwedd 2017

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

23 Tachwedd Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 23 Tachwedd

29 Tachwedd 2017

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

29 Tachwedd Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 29 Tachwedd

13 Rhagfyr 2017

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

13 Rhagfyr Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 13 Rhagfyr

11 Ionawr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

11 Ionawr Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 13 Rhagfyr

 

Bu’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn trafod y Bil ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

27 Tachwedd 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

27 Tachwedd Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 27 Tachwedd

 

 

 

 

Bu’r Pwyllgor Cyllid yn trafod y Bil ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

15 Tachwedd 2017

Ystyried y ffordd o fynd ati I wneud gwaith craffu Cyfnod 1 (Preifat)

(Preifat)

(Preifat)

7 Rhagfyr 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

7 Rhagfyr Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 7 Rhagfyr

 

Gohebiaeth y Gweinidog

Ar ôl canslo cyfarfod y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar 9 Tachwedd 2017, ysgrifennodd y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet ar 14 Tachwedd.

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol- 11 Rhagfyr 2017 (PDF 125KB)

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – 12 Rhagfyr 2017 (PDF 231 KB)

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon – 19 Rhagfyr 2017 (PDF 417KB)

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol- 20 Rhagfyr 2017 (PDF 123KB)

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid – 21 Rhagfyr 2017 (PDF 969 KB)

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – 21 Rhagfyr 2017 (PDF 237 KB)

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid – 9 Chwefror 2018 (PDF 190KB)

 

Adroddiad

Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad ar 28 Chwefror 2018 (PDF, 720KB).

Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cyllid - 28 Mawrth 2018  (PDF, 170KB)

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - 17 Ebrill 2018 (PDF, 187KB)

Gosododd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ei adroddiad ar 5 Mawrth 2018. (PDF, 1MB)

Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - 28 Mawrth 2018

Gosododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar 5 Mawrth 2018. (PDF, 684KB)

Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - 28 Mawrth 2018. (PDF, 358 KB)

Cyfnod 1: Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Mawrth 2018.

Penderfyniad Ariannol

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Mawrth 2018.

Mae rhagor o wybodaeth am benderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o'r  Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau  Cyhoeddus.

Cyfnod 2: Y Pwyllgor yn trafod gwelliannau

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 14 Mawrth 2018.

 

Cytunodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar 15 Mawrth 2018 o dan Reol Sefydlog 26.21 mai dyma fydd y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2: Adrannau 1 i 9; Atodlen 1; Adrannau 10 i 29; Teitl hir.

 

Cynhelir trafodion Cyfnod 2 yn y Pwyllgor ar ddydd Iau 3 Mai 2018.

 

Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 9 Ebrill 2018

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 25 Ebrill 2018

 

Rhestr o Welliannau wedi'u didoli - 3 Mai 2018

 

Grwpio Gwelliannau - 3 Mai 2018

 

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), heb ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2

Memorandwm Esboniadol Diwygiwyd (PDF, 3MB)

 

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - 22 Mai 2018 (PDF 465 KB)

 

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeiryddion y Pwyllgorau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a Cyllid – 1 Mehefin 2018 (PDF 296KB)

 

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon – 11 Mehefin 2018 (PDF 757 KB)

 

Cyfnod 3: Trafod y gwelliannau yn y Cyfarfod Llawn

Yn dilyn cwblhau trafodion Cyfnod 2, dechreuodd Cyfnod 3 ar 4 Mai 2018.

 

Ar ddydd Mawrth 5 Mehefin 2018, cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Reol Sefydlog 26.36, mai dyma fydd trefn trafodion Cyfnod 3: Adrannau 1 i 9; Atodlen 1; Adrannau 10 i 29; Teitl hir.

 

Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth 12 Mehefin.

 

Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 5 Mehefin 2018

Rhestr o Welliannau wedi’u didoli – 12 Mehefin 2018 (PDF 78 KB)

Grwpio Gwelliannau – 12 Mehefin 2018 (PDF 64 KB)

 

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 (PDF 126KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ochr dde’r dudalen.)

 

Cyfnod 4: Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 19 Mehefin 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), fel y’i pasiwyd (PDF 144 KB)

Newidiadau argraffu i’r Bil fel y’i pasiwyd (PDF 135KB)

Ar ôl Cyfnod 4

Ysgrifenodd y Cyfreithiwr Cyffredinol (PDF 31KB), ar ran y Twrnai Cyffredinol, y Cwnsler Cyffredinol (PDF 188KB) ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru (PDF 30KB) at y Llywydd i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Dyddiad Cydsyniad Brenhinol

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol (PDF 61KB) ar 9 Awst 2018.

 

Gwybodaeth gyswllt

Ffôn: 0300 200 6565

 

Cyfeiriad post:

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd, CF99 1NA

 

E-bost: Legislation@Senedd.Wales

 

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/10/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau