Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018
Bil Llywodraeth
Cymru, a gyflwynwyd gan Rebecca
Evans AS, Y Gweinidog dros Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau
Cymdeithasol. Yn dilyn newid ym mhortffolios y Gweinidogion ym mis Tachwedd
2017, fe wnaeth y Prif Weinidog awdurdodi Vaughan
Gething AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,
fel yr Aelod
newydd a oedd yn gyfrifol am y Bil, o 9 Tachwedd 2017. Mae'r
Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Bil i'r Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
Ynglŷn â'r Bil
Mae'r Bil yn
darparu ar gyfer isafbris ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru gan
bobl benodol ac mae'n ei gwneud yn drosedd i alcohol gael ei werthu neu ei
gyflenwi am bris is na'r pris hwnnw.
Mae'r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:
- y fformiwla
ar gyfer cyfrifo'r isafswm pris cymwys am alcohol trwy luosi cryfder
canran yr alcohol, ei gyfaint a'r isafbris uned (MUP);
- pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth i
bennu'r MUP;
- sefydlu trefn orfodi dan arweiniad awdurdodau lleol
gyda phwerau i ddod ag erlyniadau;
- pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig awdurdod
lleol, trosedd o rwystro swyddog awdurdodedig a'r pŵer i gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig (FPNs).
Mae'r Bil yn cynnig y byddai'r MUP yn cael ei bennu yn y
rheoliadau. Fodd bynnag, at ddibenion asesu'r effeithiau a'r costau a'r
manteision cysylltiedig, mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn defnyddio MUP o 50c
fel enghraifft.
Mae rhagor o fanylion am y Bil i'w gweld yn y Memorandwm
Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef.
Cyfnod
Presennol
BillStageAct
Daeth Deddf
Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru
(gwefan allanol) ar 9 Awst 2018.
Cofnod
hynt biliau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob
cyfnod o hynt y Bil trwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfnod |
Dogfennau |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwynwyd
y Bil: 23 Hydref 2017 |
Bil
Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF
133KB) Memorandwm
esboniadol (PDF 2MB) Datganiad
y Llywydd: 23 Hydref 2017 (PDF 126KB) Y
Pwyllgor Busnes - Yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Iechyd y Cyhoedd
(Isafbris am Alcohol) (Cymru) (PDF 53KB) Llywodraeth
Cymru: Datganiad o Fwriad y Polisi ar gyfer Is-ddeddfwriaeth (PDF 582KB) Bil
drafft Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (dolen allanol) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod
1: Y Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol |
Ymgynghoriad Cyhoeddus Roedd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon wedi cyhoeddi galwad
am dystiolaeth, a wnaeth cau ar 15 Rhagfyr 2017. Dyddiadau'r
Pwyllgor Bu’r Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn
trafod y Bil ar y dyddiadau canlynol:
Bu’r
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
yn trafod y Bil ar y dyddiadau canlynol:
Bu’r Pwyllgor
Cyllid yn trafod y Bil ar y dyddiadau canlynol:
Gohebiaeth y Gweinidog Ar ôl canslo cyfarfod y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon ar 9 Tachwedd 2017, ysgrifennodd
y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Ymatebodd
Ysgrifennydd y Cabinet ar 14 Tachwedd. Adroddiad Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad
ar 28 Chwefror 2018 (PDF, 720KB). Llythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - 17
Ebrill 2018 (PDF, 187KB) Gosododd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ei adroddiad
ar 5 Mawrth 2018. (PDF, 1MB) Gosododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad
ar 5 Mawrth 2018. (PDF, 684KB) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod
1: Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol |
Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y
Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Mawrth 2018. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penderfyniad Ariannol |
Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Mawrth 2018. Mae rhagor o wybodaeth am benderfyniadau ariannol ar
gael yn adran 3 o'r Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod
2: Y Pwyllgor yn trafod gwelliannau |
Dechreuodd
Cyfnod 2 ar 14 Mawrth 2018. Cytunodd y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar 15
Mawrth 2018 o dan Reol Sefydlog 26.21 mai dyma fydd y drefn ystyried ar
gyfer trafodion Cyfnod 2: Adrannau 1 i 9; Atodlen 1; Adrannau 10 i 29; Teitl
hir. Cynhelir trafodion Cyfnod 2 yn y Pwyllgor ar
ddydd Iau 3
Mai 2018. Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau – 9 Ebrill 2018 Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau – 25 Ebrill 2018 Rhestr
o Welliannau wedi'u didoli - 3 Mai 2018 Grwpio
Gwelliannau - 3 Mai 2018 Bil
Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), heb ei ddiwygio ar ôl Cyfnod
2 Memorandwm
Esboniadol Diwygiwyd (PDF, 3MB) Gohebiaeth gan Ysgrifennydd
y Cabinet |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod
3: Trafod y gwelliannau yn y Cyfarfod Llawn |
Yn dilyn
cwblhau trafodion Cyfnod 2, dechreuodd Cyfnod 3 ar 4 Mai 2018. Ar ddydd Mawrth 5
Mehefin 2018, cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Reol Sefydlog
26.36, mai dyma fydd trefn trafodion Cyfnod 3: Adrannau 1 i 9; Atodlen 1; Adrannau 10 i 29;
Teitl hir. Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn
ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth 12 Mehefin. Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau – 5 Mehefin 2018 Rhestr
o Welliannau wedi’u didoli – 12 Mehefin 2018 (PDF 78 KB) Grwpio
Gwelliannau – 12 Mehefin 2018 (PDF 64 KB) Bil
Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl
Cyfnod 3 (PDF 126KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol
eu nodi ochr dde’r dudalen.) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod
4: Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn |
Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 19 Mehefin 2018 yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. Bil
Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), fel y’i pasiwyd (PDF 144
KB) Newidiadau
argraffu i’r Bil fel y’i pasiwyd (PDF 135KB) Bil
Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), fel y'i pasiwyd (Crown
XML) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ar
ôl Cyfnod 4 |
Ysgrifenodd y Cyfreithiwr
Cyffredinol (PDF 31KB), ar ran y Twrnai Cyffredinol, y Cwnsler
Cyffredinol (PDF 188KB) ac Ysgrifennydd
Gwladol Cymru (PDF 30KB) at y Llywydd i'w hysbysu na fyddent yn
cyfeirio’r Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) at y Goruchaf
Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyddiad
Cydsyniad Brenhinol |
Rhoddwyd Cydsyniad
Brenhinol (PDF 61KB) ar 9 Awst 2018. |
Gwybodaeth
gyswllt
Ffôn: 0300 200 6565
Cyfeiriad
post:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd, CF99 1NA
E-bost: Legislation@Senedd.Wales
Math o fusnes: Bil
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/10/2017
Dogfennau
- Llywodraeth Cymru: Datganiad o Fwriad y Polisi ar gyfer Is-ddeddfwriaeth PDF 582 KB
- Llythyr ar ran y Prif Weinidog ynghylch aelodau sy’n gyfrifol am filiau’r Llywodraeth - Tachwedd 2017 PDF 255 KB
- Llythyr oddi wrth y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â gwaith craffu cyfnod 1 - Tachwedd 2017 PDF 129 KB
- Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â gwaith craffu cyfnod 1 - Tachwedd 2017 PDF 584 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol- 11 Rhagfyr 2017 PDF 125 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – 12 Rhagfyr 2017 PDF 231 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - 19 Rhagfyr 2017 PDF 417 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 20 Rhagfyr 2017 PDF 123 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid – 21 Rhagfyr 2017 PDF 969 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – 21 Rhagfyr 2017 PDF 237 KB
- Revised timetable for the Public Health (Minimum Price for Alcohol) (Wales) Bill - 25 January 2018 PDF 107 KB Gweld fel HTML (11) 12 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid – 9 Chwefror 2018 PDF 190 KB
- Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - 28 Mawrth 2018 PDF 425 KB
- Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cyllid - 28 Mawrth 2018 PDF 170 KB
- Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - 28 Mawrth 2018 PDF 358 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 9 Ebrill 2018 PDF 88 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - 17 Ebrill 2018 PDF 187 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 25 Ebrill 2018 PDF 85 KB
- Rhestr o Welliannau wedi'u didoli - 3 Mai 2018 PDF 106 KB
- Grwpio Gwelliannau - 3 Mai 2018 PDF 67 KB
- Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), heb ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2 PDF 142 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - 22 May 2018 PDF 465 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeiryddion y Pwyllgorau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwararon a Cyllid - 1 Mehefin 2018 PDF 296 KB
- Llythyr gan Ysgrifenydd y Cabinet dros Gyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid - 4 Mehefin 2018 PDF 531 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 5 Mehefin 2018 PDF 81 KB
- Rhestr o Welliannau wedi'u didoli - 12 Mehefin 2018 PDF 78 KB
- Grwpio Gwelliannau - 12 Mehefin 2018 PDF 64 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - 11 Mehefin 2018 PDF 757 KB
- Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 PDF 126 KB
- Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), fel y'i pasiwyd PDF 144 KB
- Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), fel y'i pasiwyd (Crown XML) XML 70 KB
- Newidiadau argraffu i'r Bil fel y'i pasiwyd PDF 135 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru - 10 Gorffennaf 2018 (Saesneg yn unig) PDF 30 KB
- Llythyr gan y Cyfreithiwr Cyffredinol - 17 Gorffennaf 2018 (Saesneg yn unig) PDF 31 KB
- Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol - 17 Gorffennaf 2018 PDF 188 KB
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru at Gadeirydd y Pywllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - 21 Rhagfyr 2018 PDF 1023 KB
Ymgynghoriadau
- Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) (Wedi ei gyflawni)