NDM6531- Yr Economi Gylchol

NDM6531- Yr Economi Gylchol

NDM6531 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i gyflawni hyd yma yng Nghymru o safbwynt arwain o fewn y DU a bod y drydedd wlad orau yn y byd o ran ailgylchu trefol.

2. Yn cefnogi'r bwriad i ddatblygu economi fwy cylchol i Gymru, gan gynnwys ystyried yr achos o blaid:

a) Targed o ailgylchu 80% o wastraff trefol; ac

b) Targed o leihau gwastraff bwyd 50%.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn llongyfarch Cyngor Ceredigion ar barhau i fod y cyngor sy'n perfformio orau mewn perthynas ag ailgylchu.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ym mhwynt 2,dileu popeth ar ôl 'yr achos o blaid' a rhoi yn ei le:

'targed o sicrhau dyfodol diwastraff erbyn 2030.'

Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r effaith sylweddol y gallai'r cynllun dychwelyd blaendal ei chael o ran helpu i gyrraedd targedau ailgylchu Cymru.

Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu cytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach drwy dreialu cynllun dychwelyd blaendal.

Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi'r cynnig i ostwng lefelau gwastraff gweddilliol drwy gyflwyno treth ar blastigau na ellir eu hailddefnyddio a na ellir eu hailgylchu.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2021

Angen Penderfyniad: 17 Hyd 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Jane Hutt AS