NDM6536 - Dadl Plaid Cymru
NDM6536 - Dadl Plaid Cymru
NDM6536
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi Gogledd
Cymru.
2. Yn gresynu at danariannu hanesyddol yng ngogledd Cymru
gan Lywodraeth Lafur Cymru.
3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru yn sicrhau
buddsoddiad sylweddol ar gyfer gogledd Cymru fel rhan o gytundeb y gyllideb
gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19 a 2019/20, gan gynnwys:
a) gwell cysylltiadau ffyrdd rhwng y gogledd a'r de;
b) cyllid i gefnogi dylunio a datblygu trydydd croesiad
dros y Fenai;
c) cyllid i fwrw ymlaen â chanlyniad yr astudiaeth
ddichonoldeb ynghylch creu amgueddfa bêl-droed genedlaethol yng ngogledd Cymru;
d) sefydlu cynllun grant ffermwyr ifanc a fydd o fudd i'r
diwydiant amaethyddol yng ngogledd Cymru;
e) creu cronfa ddatblygu ar gyfer hyfforddiant meddygol
israddedig yng ngogledd Cymru;
f) rhyddhad ardrethi o 100 y cant ar gyfer cynlluniau
ynni dŵr cymunedol, y mae sawl un ohonynt yng ngogledd Cymru;
g) cyllid ychwanegol ar gyfer Croeso Cymru a fydd yn hwb
i'r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno, fel rhan o'i
strategaeth economaidd hir-ddisgwyliedig, ymdrechion gwirioneddol i fynd i'r
afael ag anghydbwysedd rhanbarthol yn economi Cymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/10/2017
Angen Penderfyniad: 18 Hyd 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd