Ymchwiliad i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus
Ymchwiliad i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus
Yn 2017
cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau i gynnal ymchwiliad i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus
a datblygu cynlluniau llesiant yng Nghymru, fel rhan o’i waith ar dlodi yng
Nghymru. Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad i:
- archwilio sut y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn targedu
gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus yng nghymunedau mwyaf difreintiedig
Cymru;
- asesu ansawdd y dystiolaeth a ddefnyddir gan fyrddau gwasanaethau
cyhoeddus wrth ddatblygu cynlluniau llesiant lleol o ran anghenion a
phrofiadau pobl sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys sut y mae byrddau
gwasanaethau lleol yn gweithredu o ran diflaniad sy’n nesáu Cymunedau yn
Gyntaf;
- ystyried sut y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn mynd i’r afael,
yn benodol, â thlodi gwledig, fel rhan o’r gwaith o ddatblygu eu
cynlluniau Llesiant;
- archwilio a deall profiadau sefydliadau (cyhoeddus, preifat a thrydydd
sector) ac unigolion yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau llesiant ac
effaith bosibl mwy o weithio rhanbarthol yn y dyfodol.
Cynhaliodd
y Pwyllgor nifer o sesiynau tystiolaeth i lywio gwaith y Pwyllgor. Gellir gweld
tabl ohonynt isod. Mae'r Pwyllgor wedi ymgynghori ar y pwnc hwn. Mae’r
ymatebion wedi’u cyhoeddi.
Sesiwn dystiolaeth |
Dyddiad, agenda a chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1.
Cynrychiolwyr Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Dr Kelechi Nnoaham, Cadeirydd y Bwrdd
Partneriaeth Strategol, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Barry Liles, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Sir Gâr a Phennaeth Coleg Sir Gâr Huw Isaac, Pennaeth Perfformiad a
Datblygu, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg Bethan Jones, Cadeirydd Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych |
|||
2.
Cynrychiolwyr Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Y Cynghorydd Rosemarie Harris, Cadeirydd
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys Andrew Davies, Is-gadeirydd, Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe Chris Sivers, Cyfarwyddwr Lleoedd, Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe Kathryn Peters, Rheolwr Polisi
Corfforaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Caerffili Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor
Caerdydd, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd |
|||
3.
Cynrychiolwyr Byrddau Iechyd Rob Smith, Cyfarwyddwr Ardal y Dwyrain,
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr Sally Baxter, Cyfarwyddwr Strategaeth
Dros Dro, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr Sarah Jennings, Cyfarwyddwr
Partneriaethau a Gwasanaethau, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda Sarah Aitken, Cyfarwyddwr Iechyd
Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan |
|||
4.
Cynrychiolwyr y sector gwirfoddol Judith Stone, Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Polisi, Partneriaethau ac Ymgysylltu, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru David Cook, Swyddog Polisi, Cyngor
Gweithredu Gwirfoddol Cymru John Gallanders, Cymdeithas Mudiadau
Gwirfoddol Wrecsam Sue Leonard, Cymdeithas Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Benfro Sheila Hendrickson-Brown, Cyngor Trydydd
Sector Caerdydd |
|||
5.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a
Gwasanaethau Cyhoeddus Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet
dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr,
Trawsnewidiaeth a Phartneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru Claire Germain, Pennaeth Partneriaethau
Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru |
Ym mis Mawrth 2018, cytunodd y Pwyllgor i
adolygu ei gylch gorchwyl a chanolbwyntio ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus.
Dyma’r cylch gorchwyl newydd:
- Meithrin dealltwriaeth o strwythur a swyddogaethau’r Byrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Ystyried pa mor effeithiol yw Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, eu
hadnoddau a’u capasiti.
- Casglu tystiolaeth am faterion neu rwystrau a allai gael effaith ar
waith effeithiol, ac enghreifftiau o arfer da ac arloesedd.
Cadw mewn cysylltiad
Os hoffech wybod
rhagor am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ewch
i’w dudalen hafan, dilynwch ei gyfrif Twitter neu cysylltwch â'r
tîm sy'n cynorthwyo'r Pwyllgor yn SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/10/2017
Dogfennau
- Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus - 13 Mehefin 2018 PDF 206 KB
- Llythyr at Gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr a Phennaeth Coleg Sir Gâr - 13 Mehefin 2018 PDF 93 KB
- Llythyr at Gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych - 13 Mehefin 2018 PDF 93 KB
- Llythyr at Gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Strategol, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf - 13 Mehefin 2018 PDF 93 KB
- Llythyr at Bennaeth Perfformiad a Datblygu, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg - 13 Mehefin 2018 PDF 93 KB
- Llythyr at Iechyd Cyhoeddus Cymru - 13 Mehefin 2018 PDF 88 KB
Ymgynghoriadau