Ymchwiliad i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus

Ymchwiliad i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus

Yn 2017 cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gynnal ymchwiliad i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a datblygu cynlluniau llesiant yng Nghymru, fel rhan o’i waith ar dlodi yng Nghymru. Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad i:

  • archwilio sut y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn targedu gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru;
  • asesu ansawdd y dystiolaeth a ddefnyddir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus wrth ddatblygu cynlluniau llesiant lleol o ran anghenion a phrofiadau pobl sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys sut y mae byrddau gwasanaethau lleol yn gweithredu o ran diflaniad sy’n nesáu Cymunedau yn Gyntaf;
  • ystyried sut y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn mynd i’r afael, yn benodol, â thlodi gwledig, fel rhan o’r gwaith o ddatblygu eu cynlluniau Llesiant;
  • archwilio a deall profiadau sefydliadau (cyhoeddus, preifat a thrydydd sector) ac unigolion yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau llesiant ac effaith bosibl mwy o weithio rhanbarthol yn y dyfodol.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor nifer o sesiynau tystiolaeth i lywio gwaith y Pwyllgor. Gellir gweld tabl ohonynt isod. Mae'r Pwyllgor wedi ymgynghori ar y pwnc hwn. Mae’r ymatebion wedi’u cyhoeddi.

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, agenda a chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1.   Cynrychiolwyr Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Dr Kelechi Nnoaham, Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Strategol, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf

Barry Liles, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr a Phennaeth Coleg Sir Gâr

Huw Isaac, Pennaeth Perfformiad a Datblygu, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg

Bethan Jones, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych

7 Mehefin 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

2.   Cynrychiolwyr Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Y Cynghorydd Rosemarie Harris, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys

Andrew Davies, Is-gadeirydd, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe

Chris Sivers, Cyfarwyddwr Lleoedd, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe

Kathryn Peters, Rheolwr Polisi Corfforaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili

Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd

7 Mehefin 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

3.   Cynrychiolwyr Byrddau Iechyd

Rob Smith, Cyfarwyddwr Ardal y Dwyrain, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Sally Baxter, Cyfarwyddwr Strategaeth Dros Dro, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Partneriaethau a Gwasanaethau, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

Sarah Aitken, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan

13 Mehefin 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

4.   Cynrychiolwyr y sector gwirfoddol

Judith Stone, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi, Partneriaethau ac Ymgysylltu, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

David Cook, Swyddog Polisi, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

John Gallanders, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam

Sue Leonard, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro

Sheila Hendrickson-Brown, Cyngor Trydydd Sector Caerdydd

13 Mehefin 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

5.   Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trawsnewidiaeth a Phartneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Claire Germain, Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

17 Hydref 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

 

Ym mis Mawrth 2018, cytunodd y Pwyllgor i adolygu ei gylch gorchwyl a chanolbwyntio ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus.

 

Dyma’r cylch gorchwyl newydd:

  • Meithrin dealltwriaeth o strwythur a swyddogaethau’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Ystyried pa mor effeithiol yw Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, eu hadnoddau a’u capasiti.
  • Casglu tystiolaeth am faterion neu rwystrau a allai gael effaith ar waith effeithiol, ac enghreifftiau o arfer da ac arloesedd.

 

Cadw mewn cysylltiad

 

Os hoffech wybod rhagor am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ewch i’w dudalen hafan, dilynwch ei gyfrif Twitter neu cysylltwch â'r tîm sy'n cynorthwyo'r Pwyllgor yn SeneddCymunedau@cynulliad.cymru

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/10/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau