P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy’n ymgymryd ag addysg bellach
P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy’n ymgymryd ag addysg bellach
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gulnar Sohail, ar ôl casglu
78 o lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
adolygu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA), y Gronfa Ariannol Wrth Gefn (CAwG) a
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) i ganiatáu i fwy o geiswyr lloches allu
cymryd rhan mewn addysg bellach.
Gwybodaeth ychwanegol
Yn y cyfnod anodd hwn pan
mae chwyddiant yn cynyddu ac mae eitemau bob dydd yn mynd yn fwyfwy drud i
ddinasyddion y DU hefyd, mae bron yn amhosibl i geiswyr lloches symud ymlaen
ymhellach yn eu haddysg uwch/mynediad. Rydym ni (Ceiswyr Lloches) yn cael
ychydig dros £5 y dydd yn unig gan y Swyddfa Gartref, ac o'r swm hwn mae'n
rhaid prynu bwyd, dillad, costau cludiant dyddiol ac mae'r rhestr yn parhau.
Hyd yn oed pe byddwn yn ceisio rhywsut (trwy dorri i lawr ar fwyd neu rywbeth
arall pwysig) mae cost y cludiant ar gyfer y cwrs cyfan gan gynnwys unrhyw
daliadau eraill fel cofrestru a gofal plant yn ormod i allu ymdopi â hwy. Fy
mhwynt yw na ddylid gwahaniaethu rhwng ceisiwr lloches ac unrhyw berson arall
sy'n byw yng Nghymru os yw'r ddau'n ceisio mynd i'r coleg ar gyfer cyrsiau
addysg uwch/mynediad. Os yw person o Gymru yn cael CAwG a GDLlC yna dylai
ceisiwr lloches hefyd dderbyn y ddau, neu unrhyw gymorth cysylltiedig arall a
fydd yn ei alluogi i symud ymlaen yn ei fywyd. Oherwydd costau a grybwyllwyd
eisoes, rwyf wedi gweld cynifer o geiswyr lloches yn gwrthod eu cyfle i
ymgymryd ag addysg uwch. Mae hefyd yn golygu na fyddant yn gwneud unrhyw beth
cynhyrchiol gan nad yw gweithio'n cael ei ganiatáu, a bydd eistedd gartref yn
eu gwneud yn fwy rhwystredig. Hoffwn hefyd sôn am enghraifft ddiweddar pan y
gwnaeth person anghenus (y gwrthodwyd ei gais am loches ac y cafodd ei gymorth
ariannol a'i dŷ ei dynnu'n ôl gan y Swyddfa Gartref) gyflawni
hunanladdiad. Roedd yn byw yn y sefyllfa hon ers peth amser ac nid oedd yn
gallu gwneud defnydd o'i fywyd. Rwy'n credu pe byddai wedi cael cyfle efallai
na fyddai wedi mynd mor bell â hynny. Byddai galluogi mwy o geiswyr lloches i
gael addysg nid yn unig yn rhoi rhywfaint o bwrpas iddynt mewn bywyd ond byddai
hefyd yn cyfoethogi'r gymuned lle maent yn byw. Wedi'r cyfan, o dderbyn ein
trwydded breswyl, byddem yn annibynnol ac yn rhydd i weithio a bydd yr addysg
hon yn ein helpu mewn sawl ffordd i lunio ein teuluoedd a'n cymunedau mewn
ffyrdd llawer gwell.
Neuadd arholiadau
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/05/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb
hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
gau'r ddeiseb, gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu'r camau y
gofynnwyd amdanynt yn y ddeiseb o fis Medi 2020. Diolchodd yr Aelodau i'r
deisebydd am godi'r mater hwn a llongyfarchodd hi ar lwyddiant y ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor
Deisebau ar 05/12/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Dwyrain Abertawe
- Gorllewin De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Gwelliant
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/11/2017