P-05-790 Mynd i'r afael â chysgu ar y stryd

P-05-790 Mynd i'r afael â chysgu ar y stryd

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Hanin Abou Salem, ar ôl casglu 71 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r ffaith bod pobl yn cysgu ar y stryd yng Nghymru. Mae llywodraeth ddatganoledig yn "llywodraeth sy'n nes at y bobl," yr holl bobl!

Symudais i Gymru yn ddiweddar, ac rwyf wedi cwympo mewn cariad â phopeth Cymreig. Ond bob dydd mae fy hapusrwydd yn gymysg â thristwch mawr oherwydd fy mod yn gweld cymaint o bobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae eu dioddefaint parhaus yn sarhad imi fel aelod o'r hil ddynol. Fel unigolyn, ni allaf ddatrys eu problem ar fy mhen fy hun ond gyda'n gilydd fel llywodraeth a phobl gallwn wneud gwahaniaeth.

Mae'r bobl ddigartref yr wyf yn cerdded heibio iddynt bob dydd yng Nghymru wedi nodi eu bod yn teimlo fel "pobl sydd wedi mynd yn angof". Maent yn byw mewn cylch dieflig na ellir ond ei dorri os bydd y llywodraeth yn gosod strategaeth glir i'w cael oddi ar y stryd ac i mewn i lety diogel er mwyn iddynt adennill eu bywydau. Oddeutu pythefnos yn ôl gwelais unigolyn digartref, a dywedodd rhywun fod pobl sy'n cysgu ar y stryd eisiau bod yn ddigartref. Wrth imi ddadlau yn erbyn y rhesymeg hon, gwelodd y ddau ohonom ddyn digartref ger City Road yn darllen llyfr!

Nid oes neb yn dewis bod yn ddigartref. Mae pobl yn dod yn ddigartref o ganlyniad i amgylchiadau penodol ac mae gan y llywodraeth ddyletswydd i gael pobl oddi ar y stryd fel y gallant bleidleisio a bod yn ddinasyddion gweithredol sy'n byw ag urddas, ac fel bod cyfleoedd gwaith ar gael iddynt. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor yng Nghymru roi cymorth i unrhyw un sydd mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod ond nid yw hynny'n datrys problem unigolion sydd eisoes yn ddigartref ac sy'n cysgu ar y strydoedd. Mae angen inni roi sylw nawr i'r ffaith bod pobl yn cysgu ar y stryd!

 

Y deisebwyr yn cyflwyno’r ddeiseb i’r Pwyllgor

Y deisebwyr yn cyflwyno’r ddeiseb i’r Pwyllgor

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/10/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 05/12/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Canol Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Gwelliant

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/11/2017