NDM6528 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM6528 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM6528

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael ei ymarfer yn eang ledled y byd a bod tua 2,000 o fenywod a merched yng Nghymru yn byw gyda chanlyniadau anffurfio organau cenhedlu benywod.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) defnyddio pob cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth o'r arfer hwn;

b) annog ysgolion i drafod hyn fel rhan o'r cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol a hyfforddi staff;

c) codi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn ymysg meddygon teulu a phob ymarferydd meddygol; a

d) gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf yn derbyn cymorth a chefnogaeth i fynd i'r afael â'r broblem.

Cefnogwyd gan:

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/11/2017

Angen Penderfyniad: 8 Tach 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd