Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl Deddfu
Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl Deddfu
Daeth y Ddeddf Teithio
Llesol (Cymru) 2013 (y Ddeddf) i rym ym mis Medi 2014. Mae'r term 'teithio
llesol' yn golygu cerdded a beicio ac mae'r Ddeddf yn canolbwyntio ar gerdded a
beicio ar gyfer cludiant yn hytrach na hamdden. Mae Adran 2(7) y Ddeddf yn
diffinio "taith teithio llesol” fel "taith a wneir i weithle neu
sefydliad addysgol neu oddi yno neu er mwyn defnyddio gwasanaethau neu
gyfleusterau iechyd neu hamdden neu wasanaethau neu gyfleusterau eraill".
Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
yn cynnal gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol i adeiladu ar y gwaith craffu
ôl-ddeddfwriaethol cychwynnol a wnaed gan y Pwyllgor Menter a Busnes blaenorol
(Teithio Llesol: dechrau’r daith (Chwefror 2016).
Gweithgaredd Ymgysylltu
Trwy gydol mis Chwefror,
comisiynodd y pwyllgor grwpiau ffocws i drafod rhwystrau canfyddedig i
deithio'n weithredol, arferion da cyfredol a meysydd i'w gwella - mae
nodyn o'r ymweliadau hyn ar gael yma
Ym mis Rhagfyr, lansiodd
y Pwyllgor arolwg i'w helpu i ddeall sut a pham y mae pobl yn beicio neu'n
cerdded, a pham nad ydynt yn gwneud hynny. Derbyniwyd dros 2,500 o ymatebion - mae
adroddiad ar yr arolygon hyn ar gael yma
Mae fideo fer ar gael hefyd
sy'n crynhoi canlyniadau'r arolwg a rhai o'r themâu allweddol sy'n codi.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/11/2017
Dogfennau
- Adroddiad - Gwaith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (PDF 1 MB)
- Ymateb Llywodraeth Cymru PDF 178 KB
- Adroddiad haniaethol hwn
- Ffilm byr
- Teithio llesol: Crynodeb o grwpiau ffocws PDF 416 KB
- Teithio llesol: Crynodeb o'r arolwg PDF 934 KB
Ymgynghoriadau
- Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl Deddfu (Wedi ei gyflawni)