NDM6571 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6571 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6571 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu adolygiad y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid o effaith cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru ac yn nodi ei argymhellion.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr argymhellion a gyflwynwyd gan yr adolygiad i sicrhau y darperir yr holl gymorth sydd ar gael i bersonél milwrol, cyn-filwyr a'u teuluoedd yng Nghymru.

Y Grŵp trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid – Adolygiad o Effaith Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/11/2017

Angen Penderfyniad: 22 Tach 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd