NDM6566 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6566 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6566
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu:
a) y bydd cyflwyno trethi newydd
yng Nghymru heb ganiatâd yr etholwyr, a thrin Cymru fel labordy treth arbrofol,
yn niweidio enw da Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru; a
b) bod trethi y DU a Chymru yn
ddigon uchel eisoes, yn atal entrepreneuriaeth a thwf ac yn gwasgu cyllidebau
pobl sydd ar incwm isel.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i beidio â blaenoriaethu ymchwil i drethi newydd yng Nghymru ond, yn hytrach, i
ddilyn polisïau i wella twf economaidd a chreu swyddi â chyflog da, na fyddant
yn gosod beichiau treth ychwanegol ar unigolion a busnesau nac yn cosbi
unigolion am sut y maent yn dewis byw eu bywydau.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/11/2017
Angen Penderfyniad: 22 Tach 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd