NDM6578 Dadl: Entrepreneuriaeth: Pwrpas Cenedlaethol
NDM6578 Dadl: Entrepreneuriaeth: Pwrpas Cenedlaethol
NDM6578 Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod entrepreneuriaeth a mentrau bach a
chanolig yn allweddol i Gymru o safbwynt creu gwell swyddi a chefnogi
buddsoddiad a bod gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid,
swyddogaeth allweddol o safbwynt creu’r amgylchedd cywir a chefnogi’r
seilwaith.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn rhwydwaith o
ganolbwyntiau entrepreneuraidd ym mhob rhan o Gymru.
Yn cynnig defnyddio’r cronfeydd trafodiadau ariannol
newydd a ddyrannwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU i greu cronfa fuddsoddi
busnesau bach a chanolig newydd ar gyfer Banc Datblygu Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu corff arloesi
cenedlaethol penodedig, fel partneriaeth rhwng busnes, llywodraeth a’r byd
academaidd i gynyddu lefelau datblygu o ran cynhyrchion newydd.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2021
Angen Penderfyniad: 28 Tach 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Julie James AS