Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith - Y Bumed Senedd
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith - Y Bumed Senedd
Bydd Ysgrifenyddion y Cabinet yn ateb cwestiynau unwaith
bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar
gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa
Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r
cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb.
Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y
Cyfarfod Llawn.
Yn sgil
ad-drefnu’r Cabinet ar 13 Rhagfyr 2018, y Gweinidog dros yr Economi a’r
Seilwaith fydd bellach yn ateb cwestiynau ar y rhan fwyaf o’r materion yn y
portffolio hwn
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/11/2017