Polisi Urddas a Pharch
Polisi Urddas a Pharch
Bwrdd Taliadau
Yn sgil mabwysiadu polisi Urddas a Pharch Comisiwn y Senedd, ymrwymodd y Bwrdd Taliadau i adolygu'r holl ddogfennau a pholisïau
priodol o fewn ei gylch gorchwyl i gefnogi newid diwylliannol ac i sicrhau nad
yw ymddygiad amhriodol yn cael ei oddef ac yr eir i'r afael ag ef yn briodol.
Mae'r dogfennau a'r polisïau a ganlyn yn dod o fewn ei gylch gorchwyl:
- Cod Ymddygiad staff cymorth;
- Gweithdrefn Ddisgyblu staff cymorth;
- Gweithdrefn Gwyno staff cymorth.
Gwaith ymgysylltu
I lywio ei ystyriaeth o’r
Weithdrefn Ddisgyblu a’r Weithdrefn Gwyno gofynnodd y Bwrdd am adborth ar y ddwy
weithdrefn gan y grŵp sy’n cynrychioli staff cymorth.
Ymgynghoriad
cyhoeddus
Ar 24 Hydref cyhoeddodd y
Bwrdd ymgynghoriad cyhoeddus ar ei gynigion i ddiwygio’r Weithdrefn
Ddisgyblu a’r Weithdrefn Gwyno ar gyfer staff cymorth.
Trafododd y Bwrdd yr
ymatebion a ddaeth i law yn ei cyfarfod ar 17 Ionawr, a chytunodd i weithredu’r
cynigion. Mae’r manylion llawn wedi’u nodi yn llythyr
diweddaru’r Bwrdd.
Math o fusnes:
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Comisiwn;
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/10/2018