NDM6605 - Dadl Plaid Cymru

NDM6605 - Dadl Plaid Cymru

NDM6605 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cysylltiadau cryf rhwng Cymru a Chatalonia sy'n dyddio o'r 1930au yn ystod rhyfel cartref Sbaen.

2. Yn nodi pleidlais Senedd Catalonia i gynnal refferendwm ar ymreolaeth.

3. Yn gresynu at ymateb llawdrwm Llywodraeth Sbaen a'i phenderfyniad i gadw rhai o gynrychiolwyr etholedig Catalonia yn y ddalfa.

4. Yn cefnogi hawl seneddau yn yr Undeb Ewropeaidd i wneud penderfyniadau ar gyfer dyfodol eu dinasyddion.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/11/2017

Angen Penderfyniad: 6 Rhag 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd