NDM6605 - Dadl Plaid Cymru
NDM6605 - Dadl Plaid Cymru
NDM6605 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cysylltiadau cryf rhwng Cymru a Chatalonia sy'n
dyddio o'r 1930au yn ystod rhyfel cartref Sbaen.
2. Yn nodi pleidlais Senedd Catalonia i gynnal
refferendwm ar ymreolaeth.
3. Yn gresynu at ymateb llawdrwm Llywodraeth Sbaen a'i
phenderfyniad i gadw rhai o gynrychiolwyr etholedig Catalonia yn y ddalfa.
4. Yn cefnogi hawl seneddau yn yr Undeb Ewropeaidd i
wneud penderfyniadau ar gyfer dyfodol eu dinasyddion.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/11/2017
Angen Penderfyniad: 6 Rhag 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd