NDM6606 - Dadl Plaid Cymru
NDM6606 - Dadl Plaid Cymru
NDM6606 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y bydd y cyfnod hawlio o chwe wythnos ar gyfer
pobl sy'n hawlio credyd cynhwysol yn achosi caledi yn ystod cyfnod y Nadolig.
2. Yn ailddatgan bod diffyg sylfaenol yn y system credyd
cynhwysol.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau lliniaru i
gyflymu taliadau credyd cynhwysol, ac osgoi cosbau, dros gyfnod y Nadolig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn am yr un
cyfrifoldeb gweinyddol dros nawdd cymdeithasol â'r hyn sydd gan Lywodraeth yr
Alban.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/11/2017
Angen Penderfyniad: 6 Rhag 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd