Polisi masnach y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd

Polisi masnach y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd

Big boat and money - illustrative image only

 

Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd y gwaith a wnaed gan y Cynulliad i ymateb i gynigion Llywodraeth y DU o ran masnach yn y dyfodol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys y Bil Masnach.

 

 Y cefndir

 

Ar 9 Hydref 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Preparing for our future UK Trade Policy [Saesneg yn unig].

 

Mae'r papur polisi hwn yn nodi gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer polisi masnach y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Mae'r papur yn nodi pum blaenoriaeth ar gyfer y polisi masnachu newydd:

 

  • Masnach sy'n dryloyw ac yn gynhwysol: nododd y papur y byddai Llywodraeth y DU yn cynnal negodiadau masnach a pholisi mewn modd tryloyw gan gynnwys i'r deddfwrfeydd datganoledig ond nid oedd yn nodi mecanwaith penodol ynghylch sut y byddai’n yn gwneud hyn.
  • Cefnogi amgylchedd masnachu byd-eang sy'n seiliedig ar reolau: byddai’r DU yn cynnal yr ymrwymiadau a wnaed yn rhinwedd ei haelodaeth o Sefydliad Masnach y Byd ac yn sicrhau ei bod wedi gweithredu'r ddeddfwriaeth angenrheidiol er mwyn cau unrhyw fylchau yn yr ymrwymiadau a wnaed o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
  • Hybu perthnasoedd masnachu: dywedodd y papur y byddai’r DU yn chwilio am berthnasau masnachu newydd ac y byddai’n dechrau trafodaethau am y rhain yn ystod unrhyw gyfnod gweithredu. Nododd y byddai’r gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu cynnwys yn y trafodaethau yn ogystal â chyrff cyhoeddus megis y GIG.
  • Cefnogi gwledydd sy'n datblygu: byddai mynediad ffafriol yn parhau i gael ei gynnig i wledydd sy'n datblygu i gefnogi eu datblygiad economaidd. Byddai angen deddfwriaeth i ganiatáu i'r DU ddatblygu systemau annibynnol ar gyfer hyn.
  • Sicrhau bod pawb yn cael ei drin yn yr un modd: byddai’r DU yn sefydlu systemau ar gyfer rhwymedïau ac anghydfodau masnach sy'n efelychu'r gweithdrefnau a'r rhwymedïau presennol sydd ar gael i fusnesau'r DU yn rhinwedd aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.

 

Mewn perthynas â rôl llywodraethau datganoledig a deddfwrfeydd mewn polisïau a chytundebau masnach, dywedodd y papur:

 

"We  will  ensure  the  way  we  develop  our  own  trade policy is transparent  and inclusive so that concerns are  heard  and  understood,  and  the  right  facts are  available.  Parliament,  the  devolved administrations,  devolved legislatures,  local  government,  business,  trade unions,  civil  society, consumers,  employees and  the  public from every  part  of  the  UK  will  have  the  opportunity  to engage with and contribute to our  trade policy,  to develop an approach which maximises  the benefits  felt  across  UK  society  and its  regions".

 

Ar 7 Tachwedd 2017, cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Masnach i Dŷr Cyffredin. Roedd y Bil yn darparu:

 

  • Pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion Datganoledig wneud newidiadau i'r gyfraith ddomestig y gallai fod eu hangen i weithredu Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael y Llywodraeth;
  • Pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion Datganoledig wneud newidiadau i'r gyfraith ddomestig y gallai fod eu hangen i weithredu unrhyw gytundebau y bydd Llywodraeth y DU yn eu gwneud gyda gwledydd trydydd parti sydd eisoes wedi llofnodi bargen fasnach gyda'r UE;
  • Ar gyfer sefydlu Awdurdod Rhwymedïau Masnach; a
  • Pwerau i Cyllid a Thollau EM gasglu a rhannu data a gwybodaeth ychwanegol ar allforwyr y DU.

 

Roedd y Bil yn gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad gan ei fod yn cyffwrdd â materion datganoledig mewn nifer o feysydd.

 

Pwyllgorau'r Cynulliad

 

Gwnaeth Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau gynnal ymchwiliad, Gwerthu Cymru i'r Byd, a oedd yn edrych ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran masnach ryngwladol.

 

Rhoddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - sef 'Pwyllgor Brexit' y Cynulliad - ystyriaeth i oblygiadau polisi masnach i Gymru yn y dyfodol yn ystod cyfnod cyntaf ei waith, a arweiniodd at adroddiad ym mis Ionawr 2017 Y Goblygiadau i Gymru yn Sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei phapur polisi, ysgrifennodd y Pwyllgor (PDF,147KB) at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol i ofyn am ragor o wybodaeth am y rôl y mae Llywodraeth y DU yn ei rhagweld ar gyfer y deddfwrfeydd datganoledig. Gellir gweld gohebiaeth arall â Llywodraeth y DU ar fasnach isod.

 

Cydsyniad deddfwriaethol

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 7 Rhagfyr 2017. Ar ôl hynny, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad: Y Bil Masnach: Adroddiad ar gydsyniad deddfwriaethol a materion cysylltiedigym mis Mawrth 2018.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad atodol: Y Bil masnach – yr ail adroddiad ar gydsyniad deddfwriaethol a materion cysylltiedig  ym mis Mawrth 2019.

 

Pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o blaid rhoi cydsyniad i'r Bil Masnach ar 12 Mawrth 2019

 

Yn dilyn gwelliant i’r Bil, trafodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol arall yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Mai 2019.

 

O ganlyniad i hyn, pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol o blaid y Bil yn cael ei ystyried ymhellach gan Senedd y DU.

 

Casglu tystiolaeth

 

Gofynnodd y Pwyllgor rai cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid am y Bil Masnach yn ei gyfarfod ar 20 Tachwedd 2017. Gofynnodd hefyd gwestiynau i Brif Weinidog Cymru yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd 2017.

 

Ar 4 Rhagfyr 2017, cynhaliodd y Pwyllgor seminar breifat gyda thri academydd i archwilio'r goblygiadau i Gymru yn sgil polisi masnach Llywodraeth y DU yn y dyfodol a goblygiadau'r Bil Masnach i Gymru.

 

Ar 12 Chwefror 2018, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol sesiwn dystiolaeth gyda Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y Bil Masnach, y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol sy’n cyd-fynd ag ef gan Lywodraeth Cymru ac ar bapur Llywodraeth Cymru ar y Polisi Masanch: Materion yn ymwneud â Chymru.

 

Ar 12 Mawrth 2018, cafodd aelodau’r Pwyllgor gyflwyniad gan yr Athro Nick Perdikis ar ei adroddiad [Saesneg yn unig] ar fodelu effaith economaidd Brexit ar economi Cymru.

 

Ar 18 Ebrill 2018, ysgrifennodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Roedd y llythyr (PDF, 223 KB) yn ymwneud ag adroddiadau bod Llywodraeth y DU wedi cael trafodaethau â gwledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ynghylch dyfodol masnach.

 

Ar 14 Mai 2018, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol sesiwn graff gyda Phrif Weinidog Cymru. Roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar oblygiadau polisi masnachu’r DU a Bil Ymadael â’r UE.

 

Ar 15 Hydref 2018, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol sesiwn dystiolaeth gyda George Hollingbery AS, y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach.

 

Ar 12 Tachwedd 2018, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol seminar preifat anffurfiol gyda Dr Ludivine Petetin ynghylch Sefydliad Masnach y Byd.

 

Mae gwybodaeth am waith craffu’r Pwyllgor ar drefniadau rhyngwladol i’w gweld yma.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/12/2017

Dogfennau