Polisi masnach y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd
Polisi masnach y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd y gwaith a wnaed gan y
Cynulliad i ymateb i gynigion Llywodraeth y DU o ran masnach yn y dyfodol ar ôl
gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys y Bil Masnach.
Y
cefndir
Ar 9 Hydref 2017,
cyhoeddodd Llywodraeth y DU Preparing
for our future UK Trade Policy [Saesneg yn unig].
Mae'r papur
polisi hwn yn nodi gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer polisi masnach y DU
ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r papur yn
nodi pum blaenoriaeth ar gyfer y polisi masnachu newydd:
- Masnach sy'n dryloyw ac
yn gynhwysol: nododd
y papur y byddai Llywodraeth y DU yn cynnal negodiadau masnach a pholisi
mewn modd tryloyw gan gynnwys i'r deddfwrfeydd datganoledig ond nid oedd
yn nodi mecanwaith penodol ynghylch sut y byddai’n yn gwneud hyn.
- Cefnogi amgylchedd
masnachu byd-eang sy'n seiliedig ar reolau: byddai’r DU yn cynnal yr ymrwymiadau a wnaed
yn rhinwedd ei haelodaeth o Sefydliad Masnach y Byd ac yn sicrhau ei bod
wedi gweithredu'r ddeddfwriaeth angenrheidiol er mwyn cau unrhyw fylchau
yn yr ymrwymiadau a wnaed o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
- Hybu perthnasoedd
masnachu: dywedodd y
papur y byddai’r DU yn chwilio am berthnasau masnachu newydd ac y byddai’n
dechrau trafodaethau am y rhain yn ystod unrhyw gyfnod gweithredu. Nododd
y byddai’r gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu cynnwys yn y
trafodaethau yn ogystal â chyrff cyhoeddus megis y GIG.
- Cefnogi gwledydd sy'n
datblygu: byddai
mynediad ffafriol yn parhau i gael ei gynnig i wledydd sy'n datblygu i
gefnogi eu datblygiad economaidd. Byddai angen deddfwriaeth i ganiatáu i'r
DU ddatblygu systemau annibynnol ar gyfer hyn.
- Sicrhau bod pawb yn
cael ei drin yn yr un modd: byddai’r DU yn sefydlu systemau ar gyfer rhwymedïau ac anghydfodau
masnach sy'n efelychu'r gweithdrefnau a'r rhwymedïau presennol sydd ar
gael i fusnesau'r DU yn rhinwedd aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
Mewn perthynas â
rôl llywodraethau datganoledig a deddfwrfeydd mewn polisïau a chytundebau
masnach, dywedodd y papur:
"We
will ensure the
way we develop
our own trade policy is transparent and inclusive so that concerns are heard
and understood, and
the right facts are
available. Parliament, the
devolved administrations,
devolved legislatures, local government,
business, trade unions, civil
society, consumers, employees
and the
public from every part of
the UK will
have the opportunity
to engage with and contribute to our
trade policy, to develop an
approach which maximises the
benefits felt across
UK society and its
regions".
Ar 7 Tachwedd
2017, cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Masnach
i Dŷ’r
Cyffredin. Roedd y Bil yn darparu:
- Pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion
Datganoledig wneud newidiadau i'r gyfraith ddomestig y gallai fod eu
hangen i weithredu Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael y
Llywodraeth;
- Pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion Datganoledig
wneud newidiadau i'r gyfraith ddomestig y gallai fod eu hangen i weithredu
unrhyw gytundebau y bydd Llywodraeth y DU yn eu gwneud gyda gwledydd
trydydd parti sydd eisoes wedi llofnodi bargen fasnach gyda'r UE;
- Ar gyfer sefydlu Awdurdod Rhwymedïau Masnach;
a
- Pwerau i Cyllid a Thollau EM gasglu a rhannu
data a gwybodaeth ychwanegol ar allforwyr y DU.
Roedd y Bil yn
gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad gan ei fod yn cyffwrdd â materion
datganoledig mewn nifer o feysydd.
Pwyllgorau'r Cynulliad
Gwnaeth Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
gynnal ymchwiliad, Gwerthu Cymru
i'r Byd, a oedd yn edrych ar ddull
gweithredu Llywodraeth Cymru o ran masnach ryngwladol.
Rhoddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol - sef 'Pwyllgor Brexit' y Cynulliad - ystyriaeth i oblygiadau
polisi masnach i Gymru yn y dyfodol yn ystod cyfnod cyntaf ei waith, a
arweiniodd at adroddiad ym mis Ionawr 2017 Y
Goblygiadau i Gymru yn Sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Ar ôl i
Lywodraeth y DU gyhoeddi ei phapur polisi, ysgrifennodd
y Pwyllgor (PDF,147KB) at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol i
ofyn am ragor o wybodaeth am y rôl y mae Llywodraeth y DU yn ei rhagweld ar
gyfer y deddfwrfeydd datganoledig. Gellir gweld gohebiaeth arall â Llywodraeth
y DU ar fasnach isod.
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar 7 Rhagfyr 2017. Ar ôl hynny, cyhoeddodd y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad: Y
Bil Masnach: Adroddiad ar gydsyniad deddfwriaethol a materion cysylltiedigym
mis Mawrth 2018.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad atodol: Y
Bil masnach – yr ail adroddiad ar gydsyniad deddfwriaethol a materion
cysylltiedig ym mis Mawrth 2019.
Pleidleisiodd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru o blaid rhoi cydsyniad i'r Bil Masnach ar 12 Mawrth 2019.
Yn dilyn
gwelliant i’r Bil, trafodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol atodol arall yn y Cyfarfod Llawn ar 21
Mai 2019.
O ganlyniad i
hyn, pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol o blaid y Bil yn cael ei ystyried
ymhellach gan Senedd y DU.
Casglu
tystiolaeth
Gofynnodd y Pwyllgor rai cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
am y Bil Masnach yn ei gyfarfod ar 20 Tachwedd 2017. Gofynnodd hefyd gwestiynau i Brif Weinidog
Cymru yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd 2017.
Ar 4 Rhagfyr 2017,
cynhaliodd y Pwyllgor seminar
breifat gyda thri academydd i archwilio'r goblygiadau i Gymru yn sgil
polisi masnach Llywodraeth y DU yn y dyfodol a goblygiadau'r Bil Masnach i
Gymru.
Ar 12 Chwefror
2018, cynhaliodd y Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol sesiwn dystiolaeth
gyda Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y
Bil Masnach, y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol sy’n cyd-fynd ag ef gan
Lywodraeth Cymru ac ar bapur Llywodraeth Cymru ar y Polisi Masanch: Materion yn
ymwneud â Chymru.
Ar 12 Mawrth
2018, cafodd aelodau’r Pwyllgor gyflwyniad gan yr Athro Nick Perdikis ar ei adroddiad
[Saesneg yn unig] ar fodelu effaith economaidd Brexit ar economi Cymru.
Ar 18 Ebrill
2018, ysgrifennodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Roedd y llythyr
(PDF, 223 KB) yn ymwneud ag adroddiadau bod Llywodraeth y DU wedi cael
trafodaethau â gwledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ynghylch dyfodol
masnach.
Ar 14 Mai 2018, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol sesiwn graff gyda Phrif Weinidog Cymru.
Roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar oblygiadau polisi masnachu’r DU a Bil Ymadael
â’r UE.
Ar 15 Hydref
2018, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol sesiwn dystiolaeth
gyda George Hollingbery AS, y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach.
Ar 12 Tachwedd
2018, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol seminar
preifat anffurfiol gyda Dr Ludivine Petetin ynghylch Sefydliad Masnach y Byd.
Mae gwybodaeth am
waith craffu’r Pwyllgor ar drefniadau rhyngwladol i’w gweld yma.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/12/2017
Dogfennau
- Y Bil Masnach: Ail adroddiad ar gydsyniad deddfwriaethol a materion cysylltiedig - 8 Mawrth 2019
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch polisi masnach ar ôl Brexit - a’r goblygiadau i Gymru - 19 Gorffennaf 2018 PDF 151 KB
- Gohebiaeth gan George Hollingbery AS, y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach ynghylch gwelliannau i’r Bil Masnach - 10 Gorffennaf 2018 [Saesneg yn unig] PDF 130 KB
- Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi at Angus MacNeil AS, Cadeirydd Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Fasnach Ryngwladol, ynghylch strategaeth fasnach y DU ar ôl Brexit – 21 Mehefin 2018 [Saesneg yn unig] PDF 283 KB
- Gohebiaeth oddi wrth Greg Hands AS, y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach, ynghylch goblygiadau polisi masnach y dyfodol – 11 Mehefin 2018 [Saesneg yn unig] PDF 97 KB
- Gohebiaeth gan David Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Greg Hands AS, y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach, ynghylch goblygiadau polisi masnach y dyfodol – 16 Mai 2018 [Saesneg yn unig] PDF 153 KB
- Gohebiaeth at Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch polisi masnach ar ôl Brexit – 18 Ebrill 2018 PDF 223 KB
- Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, Y Bil Masnach: Adroddiad ar gydsyniad deddfwriaethol a materion cysylltiedig - dydd Gwener 9 Mawrth 2018
- Llythyr gan y Gweinidog Polisi Masnach at y Cadeirydd ar y polisi masnach yn y dyfodol [Saesneg yn unig] - 26 Hydref 2017 PDF 90 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Ganghellor y Trysorlys ynghylch Papur Gwyn y Bil Tollau: Goblygiadau i Gymru - 26 Hydref 2017 [Saesneg yn unig] PDF 150 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol ar y polisi masnach yn y dyfodol [Saesneg yn unig] - 14 Tachwedd 2017 PDF 147 KB